Yr Oriel

  • Header image

LlinynnauLowri Davies ac Aelodau Cymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru

04 Hydref - 06 Hydref 2024

Agoriad Arddangosfa: 5 - 7yh, dydd Gwener 4ydd Hydref 2024.

Am ddim | Croeso i bawb

 

Fel rhan o ddathliadau Cyngor Abertawe o gelf ar hyd a lled y ddinas mae Artistiaid Ydym Oll Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu popeth sy’n ymwneud ag adrodd storïau, drwy gyfrwng cerameg a darluniau.

Mae’r ceramegydd Cymreig adnabyddus, Lowri Davies, yn cymryd ein gofod arddangos drosodd ac yn dangos darnau dethol. Yn ogystal â gwaith Lowri, bydd cyfle hefyd i weld eitemau wedi’u creu gan aelodau o Gymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru, sydd wedi bod yn gweithio gyda Lowri i ymchwilio i’r cysylltiadau treftadaeth ddiwylliannol rhwng eiconograffeg Gymreig, sy’n mynd â bryd Lowri, a Blwyddyn y Ddraig sy’n cael ei dathlu gan y Tsieineaid.

Mae Lowri yn creu gwaith mewn tsieni asgwrn a phorslen, gan greu casgliadau sy’n cael eu nodweddu gan agoriadau ar oleddf ac sydd wedi’u haddurno â lluniau inc a dyfrlliw. Mae ei gwaith yn deillio o gyfeiriadau at lestri tsieni ar ddreseri Cymreig, casgliadau o gofroddion a darluniadau byw o adar yn seiliedig ar luniau o gasgliadau tacsidermi Fictoraidd. Mae’r gwrthrychau a’r delweddau hyn yn aml yn cyfeirio at ymdeimlad o berthyn i le drwy adfywio eiconograffeg a symboliaeth, sydd â chysylltiad dwfn â’i gwreiddiau. 

 

Ac i’r rhai ohonoch sy’n mwynhau creu, fe fydd sesiynau creu gyda Lowri Davies yn ystod y penwythnos, ynghyd a gweithdai i oedolion gyda Katherine Silvera-Sunley a Micki Schloessingk.

Sesiynau gwneud gyda'n gilydd gyda Lowri Davies

Gweithdy Chwarae â Chlai gyda Micki Schloessingk ac Eve Gnoyke

Gweithdy Modrwyau Parti gyda Katherine Silvera-Sunley

 

Delwedd: Darnau gan Lowri Davies, ffotograffwyd gan Manon Houston



Am Lowri Davies

Mae Lowri Davies yn Ddarlunydd ac Artist Cerameg. 

Mae’n adnabyddus am greu casgliadau o gwpanau, jygiau a fasys tsieni, sydd â’u hagoriadau ar oleddf, ac sydd wedi’u haddurno â lluniau inc a dyfrlliw. Mae ei gwaith yn deillio o gyfeiriadau at lestri tsieni ar ddreseri Cymreig, casgliadau o gofroddion a darluniadau byw o adar yn seiliedig ar ei lluniau o gasgliadau tacsidermi Fictoraidd. Mae’r gwrthrychau a’r delweddau hyn yn aml yn cyfeirio at ymdeimlad o berthyn i le drwy adfywio eiconograffeg a symboliaeth, sydd â chysylltiad dwfn â’i gwreiddiau.

Mae Lowri yn artist sydd wedi ennill nifer o wobrau ac mae’n gweithio yn Stiwdios Clai Fireworks yng Nghaerdydd.




‘Artistiaid Ydym Oll’ a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae Artistiaid Ydym Oll’ yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe a gynhelir ar draws y ddinas rhwng 4 a 6 Hydref 2024.

 

Logo cyllid Llywodraeth Prydeinig              Logo Cyngor Abertawe

 




<< Yn ôl tudalen