Dysgu i Oedolion
Dosbarthiadau
Mae’r dosbarthiadau anffurfiol yma o dan arweiniad artistiaid proffesiynol a fydd yn eich tywys drwy faes creadigol newydd. Mae’r sesiynau hwyliog a hygyrch hyn yn addas i bob gallu. Ymhlith testunau dosbarthiadau blaenorol mae cerameg, gwydr a gwneud gemwaith. Undydd yw hyd pob dosbarth ac mae’n costio £30. Dyma ffordd wych o ddysgu rhywbeth ac estyn eich creadigrwydd.
£30 yr un
Yn wych i bob gallu
Gweithdai
Bydd ein gweithdai deuddydd yn mynd â’ch creadigrwydd i’r lefel nesa; byddwch yn edrych ar dechnegau a chyfryngau mwy cynhwysfawr gyda chefnogaeth a thiwtora proffesiynol. Pris y gweithdai yw £75 ac maent yn para dros ddeuddydd.
£75 am ddeuddydd
Yn wych i bob gallu
Yn fwy manwl