Criw Celf y Gorllewin
2015-2023
Mae Criw Celf Cynradd (ar gyfer blynyddoedd 5 a 6), Criw Celf Uwchradd (ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8) Portffolio (ar gyfer blynyddoedd 9-11) a Codi’r Bar (ar gyfer blynyddoedd 12 a 13) yn rhan o brosiect Criw Celf Cymru gyfan; sef rhaglen i ddatblygu plant a phobl ifanc sydd â dawn artistig.
Cynhaliwyd Criw Celf y Gorllewin gan Oriel Mission bob blwyddyn ar gyfer plant yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Bu’r myfyrwyr a gofrestrodd ar gyfer y prosiect hwn yn cymryd rhan mewn 5 dosbarth meistr – a gynhelid ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul. Roedd pob un yn cael ei arwain gan artist proffesiynol, ac roedd cyfle i ddefnyddio offer arbenigol o’r radd flaenaf. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys teithiau i orielau, stiwdios, amgueddfeydd a phrifysgolion eraill. I ddathlu gwaith caled y cyfranogwyr, cynhaliwyd arddangosfa gan y myfyrwyr ar ddiwedd y prosiect blynyddol – yn ein prif ofod yn Oriel Mission.
Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a chafodd ei gefnogi gan Goleg Celf Abertawe (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) a Choleg Gŵyr Abertawe.
“Fyddai’r rhan fwyaf o’r plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw fyth yn cael profiad o fynd i oriel na gweld gwaith artist y tu allan i’r ysgol. Rydyn ni wedi gweld newid mawr yn y plant sydd wedi cymryd rhan yn Criw Celf gyda chi – o ran eu gwaith Celf, wrth gwrs, ond hefyd o ran eu hyder a’u hagwedd at fywyd” – Liz Tucker, athrawes yn Ysgol Gynradd Cadle
Gwerthusiad Criw Celf y Gorllewin 2023
Nod Mission drwy raglen Criw Celf 2023 oedd adeiladu ar gyfer y dyfodol, gan ganolbwyntio ar dair elfen allweddol o weithgarwch; datblygu rhaglenni ieuenctid, ymgynghori ag ysgolion, a rhaglenni craidd Criw Celf. Roedd y tair elfen yn canolbwyntio ar eu maes unigol eu hunain ac yn rhoi lle i archwilio posibiliadau ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod myfyrwyr newydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr. Roedd y rhaglen yn cael ei hwyluso gan artistiaid a’i harwain gan bobl ifanc, a bu’r rhaglen yn rhedeg rhwng mis Mawrth 2023 a mis Mehefin 2023. Bu’r bobl ifanc a gafodd eu recriwtio gan Oriel Mission (a oedd hefyd yn gyn-aelodau o gynllun Codi’r Bar) yn mentora ac yn gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc o grŵp galw heibio ar ôl ysgol y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST). Datblygwyd ymgynghoriadau ag ysgolion – ar ffurf sesiynau ymchwil a datblygu creadigol i gefnogi gofynion y cwricwlwm newydd – ar y cyd ag Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, Ysgol Gyfun Birchgrove ac Ysgol Gynradd Seaview. Mae’r ddwy elfen yma’n hanfodol i’n gwaith gyda phobl ifanc yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi cynnal cyfres o ddosbarthiadau meistr a thripiau penwythnos ar gyfer carfan Criw Celf 2023 – er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y sgiliau creadigol a ddatblygwyd a’r cydweithrediadau artistig sydd wedi gwneud blynyddoedd blaenorol Criw Celf yn gymaint o lwyddiant. Mae’r holl elfennau wedi’u cynnwys yn ein harddangosfa ar gyfer 2023