I Blant

  • Header image

Sesiynau gwneud gyda’n gilydd ar gyfer teuluoedd gyda Lowri DaviesLowri Davies

05 Hydref - 06 Hydref 2024

Fel rhan o ddathliadau Cyngor Abertawe o gelf ar hyd a lled y ddinas mae We are all artists Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu popeth sy’n ymwneud ag adrodd storïau, drwy gyfrwng cerameg a darluniau.

 

Mae’r ceramegydd Cymreig adnabyddus, Lowri Davies, yn cymryd ein gofod arddangos drosodd ac yn dangos darnau dethol sy’n cael eu datblygu ar gyfer ei phrosiect ‘Merched ar lestri’; prosiect mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun.

Yn ogystal â gwaith Lowri, bydd cyfle hefyd i weld eitemau wedi’u creu gan aelodau o Gymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru, sydd wedi bod yn gweithio gyda Lowri i ymchwilio i’r cysylltiadau treftadaeth ddiwylliannol rhwng eiconograffeg Gymreig, sy’n mynd â bryd Lowri, a Blwyddyn y Ddraig sy’n cael ei dathlu gan y Tsieineaid.

 

Lowri Davies

Mae Lowri Davies yn Ddarlunydd ac Artist Cerameg.

Mae’n adnabyddus am greu casgliadau o gwpanau, jygiau a fasys tsieni, sydd â’u hagoriadau ar oleddf, ac sydd wedi’u haddurno â lluniau inc a dyfrlliw.

Mae ei gwaith yn deillio o gyfeiriadau at lestri tsieni ar ddreseri Cymreig, casgliadau o gofroddion a darluniadau byw o adar yn seiliedig ar ei lluniau o gasgliadau tacsidermi Fictoraidd. Mae’r gwrthrychau a’r delweddau hyn yn aml yn cyfeirio at ymdeimlad o berthyn i le drwy adfywio eiconograffeg a symboliaeth, sydd â chysylltiad dwfn â’i gwreiddiau.

Mae Lowri yn artist sydd wedi ennill nifer o wobrau ac mae’n gweithio yn Stiwdios Clai Fireworks yng Nghaerdydd

 

Sesiynau gwneud gyda’n gilydd ar gyfer teuluoedd gyda Lowri Davies


 Eventbrite: Sesiynau gwneud gyda’n gilydd ar gyfer teuluoedd gyda Lowri Davies 



Dydd Sadwrn 5 Hydref

10:30am-12:00pm

Gweithdy addurno teils.

Yn ystod y gweithdy hwn byddwch yn arbrofi ag addurno teils gwydrog ag amrywiaeth o ddecalau patrymog a lliw, gan greu effaith collage. Yna bydd y teils yn cael eu tanio a’u dychwelyd i’r oriel i chi gael eu casglu.

 

a 2:00-3:30pm

Gweithdy printio blociau.

Creu eich printiau bloc eich hun ac arbrofi â thechneg printio drwy ailadrodd patrwm

 

Dydd Sul 6 Hydref

10:30am-12:00pm

Gweithdy addurno teils.

Yn ystod y gweithdy hwn byddwch yn arbrofi ag addurno teils gwydrog ag amrywiaeth o ddecalau patrymog a lliw, gan greu effaith collage. Yna bydd y teils yn cael eu tanio a’u dychwelyd i’r oriel i chi gael eu casglu.

 

a 2:00-3:30pm

Gweithdy printio blociau.

Creu eich printiau bloc eich hun ac arbrofi â thechneg printio drwy ailadrodd patrwm

 

capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.


 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.


 

‘Artistiaid Ydym Oll’ a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae Artistiaid Ydym Oll’ yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe a gynhelir ar draws y ddinas rhwng 4 a 6 Hydref 2024.

<< Yn ôl tudalen