Llogi | Oriel Mission
Lawrlwythwch ein pecyn llogi lleoliad
Beth am gynnal eich digwyddiad neu gyfarfod yn Oriel Mission?
Mae llogi ein horiel hardd neu weithdy yn ffordd berffaith o gynnal digwyddiad mewn lleoliad cwbl unigryw. Mae gan Oriel Mission hanes cyfoethog, llwyth o gymeriad ac acwsteg wych.
Mae’r oriel yn cynnig gofod clyd ar gyfer partïon, derbyniadau diodydd, perfformiadau ar raddfa fach a chyfarfodydd busnes. Fel cenhadaeth i forwyr yn y gorffennol, mae gan Oriel Mission bensaernïaeth ddiddorol a deniadol wedi'i hategu gan arddangosfeydd celf newidiol, ac mae'n cynnig lleoliad unigryw i'ch digwyddiad.
Mae ein gweithdy i fyny’r grisiau yn ddelfrydol ar gyfer gweithdai creadigol, partïon ieir hwyliog gyda gweithgareddau crefft, diwrnodau cwrdd i ffwrdd ar gyfer timau a chyfarfodydd (gellir cyrraedd y gofod hwn trwy ddefnyddio grisiau yn unig).
Mae unrhyw elw a ddaw yn sgil llogi’r lleoliad yn cyfrannu at warchod Oriel Mission, cefnogi artistiaid a gwneuthurwyr Cymreig, trefnu arddangosfeydd a gweithdai cyffrous a chyflwyno rhaglen allgymorth uchelgeisiol gydag ystod o bartneriaid cymunedol.
Rydym yn ddigon bodlon trefnu diodydd, bwffé, artistiaid - beth bynnag sydd ei angen ar gyfer eich digwyddiad! Mae argaeledd y lleoliad ar gyfer llogi yn amodol ar y rhaglen arddangos.
Cysylltwch â Sarah Cook a fydd wrth ei bodd yn trefnu popeth i'ch helpu i greu'r digwyddiad unigryw ond fforddiadwy rydych chi am ei gynnal. sarah@missiongallery.co.uk
Ffioedd Llogi Lleoliad
Hanner Diwrnod | Diwrnod Llawn | Min-nos | |
Gofod Arddangos | £120* | £200* | £200* yn cynnwys 2 aelod o staff |
Lleoliad Gweithdy ar y Llawr Cyntaf *** | £55 | £100 | £100 yn cynnwys 2 aelod o staff |
* Mae argaeledd gofod arddangos yn amodol ar y rhaglen arddangos
** Nid yw'r prisiau hyn yn cynnwys TAW
*** Yn hygyrch gan ddefnyddio grisiau yn unig
Wedi'i gynnwys yn y ffi llogi: byrddau, cadeiriau, taflunyddion, WiFi am ddim.
Pethau ychwanegol:
Lluniaeth - gallwn ddarparu coffi a bisgedi, te prynhawn, gwin a danteithion, yn ogystal â bwffé llawn. Gyda rhybudd ymlaen llaw, gallwn hefyd drefnu bar ar gyfer eich digwyddiad; codir tâl ychwanegol am hyn.
Gweithdai creadigol - mae gennym rwydwaith o artistiaid a gwneuthurwyr yn gweithio mewn ystod eang o ffurfiau ar gelfyddyd a all ddarparu gweithdy wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer eich grŵp neu ddiwrnod cwrdd-i-ffwrdd eich tîm! Bydd Sarah yn fodlon iawn trefnu popeth sydd ei angen arnoch.