Datganiad amrywiaeth mewn ymateb i fudiad Mae Bywydau Duon o Bwys. 

Mae Oriel Mission yn credu’n gadarn fod Bywydau Duon o Bwys. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd a diwylliant gweithio lle yr ymdrinnir â phawb gydag urddas a pharch a lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi. Bwriedir i’n llywodraethu, strwythur gweithredol, rhaglennu a gweithgarwch fod yn agored i holl gymunedau Cymru, gan gynnwys y rhai duon, Asiaidd ac ethnig amrywiol.

Mae ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn fframio ein hymagwedd a sut rydyn ni’n mynd ati i ymgymryd â’n busnes a’n rhyngweithio. Mae Oriel Mission yn ymrwymedig i amrywiaeth ym mhob maes o’n gwaith. 

Mae bod yn gynhwysol yn rhan graidd o’n sefydliad. Mae cynwysoldeb yn ymestyn at aelodau ein bwrdd, ein staff, gwirfoddolwyr, ymarferwyr dan gontract a’n grwpiau cyfrannog. Mae’n bwysig bod holl gymunedau Cymru, gan gynnwys y rhai duon, Asiaidd ac ethnig amrywiol, yn cael eu cynrychioli yn Oriel Mission.

Mae Oriel Mission yn ymrwymedig i ddatblygu rhaglenni sy’n adlewyrchu amrywiaeth bywyd yng Nghymru. Rydym yn ymdrechu i adlewyrchu amrywiaeth o ddiwylliannau ac isddiwylliannau drwy ein harddangosfeydd, digwyddiadau a phrosiectau cyfrannog.

Rydym yn cydnabod bod yna ragor y gallwn ei wneud, ac rydyn ni eisiau ei wneud, i fynd ati i ymgysylltu â’n gwahanol gymunedau. Wrth ailwerthuso ein hallbwn a’n rhyngweithio, rydym yn cydnabod nad ydym yn cyrraedd nac yn ymgysylltu ag amrywiaeth ein cymunedau yng Nghymru yn ei chrynswth. Rydym am i bobl wybod mai gofod diogel a chynhwysol i bawb yw Oriel Mission a’n bod yn edrych i dyfu partneriaethau, prosiectau a chyfleoedd a fydd wir yn ehangu ein hamrywiaeth fel sefydliad.

100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy