Ymdeimlad o Le

Chwefror - Medi 2023

Mae Ymdeimlad o Le yn brosiect partneriaeth rhwng Oriel Mission a’r elusen ddigartrefedd Crisis. Gan adeiladu ar gydweithio llwyddiannus blaenorol, darparodd y prosiect naw mis weithgareddau ystyrlon a datblygu sgiliau i ddefnyddwyr gwasanaeth Crisis, gan archwilio’r cwestiwn ‘A all celf weithredu fel cyfrwng i drechu unigrwydd ymhlith y rhai mae digartrefedd yn effeithio arnyn nhw?’ Mae’r prosiect yn ymateb i adroddiad 2016 Crisis, I was all on my own; experience of loneliness and isolation amongst homeless people.

Oriel Mission a crisis:

Bu’r prosiect yn gweithio’n agos gyda defnyddwyr gwasanaeth Crisis ar ddatblygu cyfres o weithdai celfyddydol.

Rhannwyd y gweithdai hyn yn bedwar prosiect bach 6 wythnos o hyd, gan weithio ochr yn ochr â phum artist, mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol. 

Bu’r artistiaid canlynol yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau i greu gweithgareddau pwrpasol:

Armağan a Nese Aydın, Mosaic

Lisa Burkl, Gwydr wedi’i staenio

Osian Grifford, Darlunio

Sahar Saki, Caligraffi a Dylunio Persiaidd

 

Yn y prosiect rydym yn mynd i’r afael ag argymhellion adroddiad Crisis 2016 a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, drwy greu’r gefnogaeth sydd ei hangen i sicrhau bod pobl yn cael y cyfleoedd i adeiladu rhwydweithiau newydd ac ailgysylltu ag eraill ac, yn y broses, herio’r labeli negyddol sy’n gysylltiedig â bod yn ddigartref.

Caiff y canlyniadau eu harddangos yma yn Oriel Mission am 7 wythnos. Hoffem longyfarch aelodau Crisis ar safon uchel eu gwaith celf, a diolch i’n hartistiaid a’u cynorthwywyr am eu hamser a’u hymroddiad i’r prosiect.

Gwnaed y gwaith hwn yn bosibl drwy gronfa Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymr

    

Dadorchuddio Gwehyddu

Dadorchuddio GwehydduSue Hiley Harris

22 Mawrth - 17 Mai 2025

Mwy