Polisi Dychwelyd
Rydyn ni am i chi fod yn hollol hapus gyda beth rydych wedi’i brynu; fodd bynnag, os nad ydych, dylech ei ddychwelyd aton ni yn ei gyflwr gwreiddiol o fewn 28 diwrnod o’i dderbyn a byddwn yn falch o’i gyfnewid neu roi ad-daliad i chi; mae hyn y berthnasol i eitemau a brynir ar-lein neu yn y siop.
Dychwelyd eitem a brynwyd yn y siop.
I dderbyn ad-daliad, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi prynu’r eitem gynnon ni, er enghraifft, y dderbynneb wreiddiol, adroddiad banc ac yn y blaen. Cyhyd ag y mae’r eitem mewn cyflwr derbyniol, byddwn yn rhoi ad-daliad gan ddefnyddio’r dull talu gwreiddiol.
Dychwelyd eitem a archebwyd ar-lein
Cyn dychwelwyd eitem a archebwyd ar-lein, bydd yn rhaid i chi ei drefnu gyda Rhian: rhian@missiongallery.co.uk
Lle bynnag y bo modd, dylech ddychwelyd yr eitemau yn eu deunydd pacio gwreiddiol (neu sydd yr un mor gryf). Dylid sylwi wrth ddychwelyd eitem, eich cyfrifoldeb chi yw’r parsel nes iddo’n cyrraedd. Rydyn ni’n argymell eich bod yn gofyn i’ch Swyddfa Bost am dystysgrif bostio (sydd ar gael am ddim). Nid yw’r warant hon yn effeithio ar eich hawliau statudol. Dylid anfon eitemau i’w dychwelyd i:
Oriel Mission (Eitemau i’w dychwelyd), Gloucester Place, Abertawe, SA1 1TY
Costau Postio
Ar gyfer archebion ar-lein, byddwn hefyd yn ad-dalu cost wreiddiol y cyflenwi. Ni ellir ad-dalu taliadau postio dychwelyd oni bai bod eich archeb yn ddiffygiol neu’n anghywir.
Derbyn eich ad-daliad
Pan fydd eitem yn gymwys ar gyfer ad-daliad, byddwn yn defnyddio’r dull talu gwreiddiol i’w dalu; os talwyd mewn arian parod, cewch ad-daliad arian parod neu os talwyd â cherdyn, byddwn yn rhoi ad-daliad ar yr union gerdyn hwnnw.
Cyfnewid eitem
Os ydych yn newid eich meddwl am eitem, gallwn gynnig eitem arall yn ei lle. Bydd angen i chi roi’ch derbynneb wreiddiol i ni.
Eithriadau
Ni ellir dychwelyd rhai eitemau am ad-daliad oni bai eu bod yn ddiffygiol neu’n cyrraedd wedi’u difrodi. Yr eitemau hyn yw:
Nwyddau sydd wedi’u personoli neu drwy archeb ar ddewis y cwsmer.
Eitemau darfodus neu fwytadwy.
Gemwaith fel clustdlysau.
Eitemau Diffygiol neu Eitemau Wedi’u Difrodi
Rydyn ni’n cymryd pob gofal wrth drin a phacio ein cynhyrchion. Os, drwy ryw anlwc, bydd eitem yn cael ei gyflenwi â nam arni neu wedi’i difrodi, cysylltwch â rhian@missiongallery.co.uk fel y gallwn drefnu un yn ei lle neu ad-daliad.
Ystyrir bod eitemau’n ddiffygiol os ydynt yn cael eu derbyn wedi’u difrodi neu pan fydd nam gweithgynhyrchu’n digwydd o fewn 6 mis i’r dyddiad prynu. Nid ystyrir mai diffygiol yw eitemau sydd wedi’u difrodi oherwydd traul.
Os oes unrhyw gwestiynau pellach gynnoch chi, cysylltwch â rhian@missiongallery.co.uk