Iaith Clai

Ein prosiect arddangosfeydd teithiol nodweddiadol yw Iaith Clai sydd yn dathlu amrywiaeth ymarfer cerameg cyflawnedig yng Nghymru. Comisiynwyd ac arddangosodd y prosiect, curadwyd gan Ceri Jones ac fe ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, waith gan 6 artist ar linell flaen cerameg. Cafwyd prosiect Iaith clai ei redeg mewn dwy ran rhwng 2015 - 2019, ac fe deithiodd i nifer o orielau yng Nghymru.

iaithclai.cymru Ffilmiau Cyhoeddiadau

 


 

Cyflwyniad

Ymdrin pob artist â’r cyfrwng gyda gwahanol bersbectifau, profiadau a sgiliau. Mae ymarfer serameg yn ddiddiwedd yn ei bosibiliadau creadigol. Fel deunydd organig, ymateba clai yn ddeinamig i wahanol ffyrdd a thriniaeth. Yr ansawdd yma sydd yn ei wneud mor gyfareddol a heriol i weithio gyda. O fewn maes sydd yn gryf yma yng Nghymru, mae’r artistiaid yn arddangos ymarferiad unigol.

Mae’r prosiect yn cynnwys arddangosfeydd unigol teithiol. Ceir deunydd dehongli, cyhoeddiadau, casgliad trin a rhaglenni cyfrannu i gydfynd â’r rhain. Trwy weithgareddau prosiect, gobeithiwn ganu clod clai ac arwyddocâd enfawr serameg yn ein bywydau. Llwyfan ymholiad a darganfyddiaeth yw Iaith Clai. Gwahoddiad ydyw, ymddiriedwn, i fwy o bobl ymuno â’r sgwrs.

Llwyfan ymholiad a darganfyddiaeth yw Iaith Clai. Gwahoddiad ydyw, ymddiriedwn, i fwy o bobl ymuno â’r sgwrs.

 

Justine Allison exhibition at Mission Gallery. Taking place in the main exhibition space. Her ceramic work is displayed on two large tables.

Justine Allison yn Oriel Mission

 


 

Rhan 1: 2015 - 2017

 

Mae seramegau ffigurol Anna Noël yn cipio eiliadau o ryngweithio rhwng anifeiliaid a rhwng pobl ac anifeiliaid. Mae’r cerfluniau enigmatig hyn yn portreadu symlrwydd ymddangosiadol, ac eto maent yn ennyn chwilfrydedd sy’n nodweddiadol o arfer Anna. Mae Micki, sy’n wneuthurwr blaenllaw potiau wedi’u tanio, yn un o ddyrnaid bach o grochenyddion byd-eang medrus felly sy’n gwneud potiau wedi’u tanio â choed a’u gwydro â halen. Mae ei mewnwelediad dwys i iaith clai wedi tyfu wrth iddi feithrin y cyfrwng. Mae Anne yn ddeheuig am ystyried pethau y bydd yn eu gweld ac yn eu profi, boed hynny’n wrthrychau, tirweddau neu gyfnewidiadau personol. Mae’r arsylliadau a’r ystyriaethau hyn yn amlwg yn ei cherfluniau tsieni asgwrn ac yn awgrymu myrdd o ystyron. Bydd Anne yn gwneud yn ôl yr hyn y bydd yn ei weld ac yn ei deimlo yn y byd. 

 

 

 


 

Rhan 2: 2017 - 2019

 

Yn cydbwyso rhwng ymarferol a cherfluniol, mae ymarfer Justine yn cyflwyno darnau porslen sydd yn dal y golau.  Mae Ingrid yn mwynhau gwthio ffiniau technoleg yn ei gwaith.  Gan integreiddio adnoddau technolegol newydd o fewn ei ffurfiau cerameg, mae Ingrid yn defnyddio eitemau cyfarwydd i ddatguddio hanes a naratif. Mae Kate yn creu ffurfiau cerfluniol manwl. Mae ei hymarfer cyd-destunol wedi ei arwain gan ymchwil disgybledig. Mae manwl gywirdeb ei phroses, wedi ei gyfuno ag estheteg gain, yn gwneud ei gwaith yn farddonol.

 


 

Partnertiaid

 


 

Ymateb

'A Language of Clay' - arddangosfa o waith s Justine Allison, Anne Gibbs, Kate Haywood, Lisa Krigel, Ingrid Murphy and Zoe Preece yn New Brewery Arts, Cirencester.

I weld sgwrs gyda'r artistiaid i ymwneud a'r sioe, cliciwch yma.

 

Y Dyfodol

 

Os oes gennych ddiddordeb neu gwestiynau ynglŷn â chyfres Iaith Clai, cysylltwch â Rhian Wyn Stone:

rhian@missiongallery.co.uk

 

Cyllid

 

Cymgor Celfyddydau Cymru

100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy
Teyrnged i integreiddio

Teyrnged i integreiddioMLArt: Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys and Joel Morris

31 Mai - 06 Gorffennaf 2024

Mwy