Cysylltu
Prosiect Partneriaeth
19 Hydref - 02 Tachwedd 2024
Mae Cysylltu/Connect yn brosiect partneriaeth rhwng Oriel Mission, y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid. Rydym yn falch o gael dangos y canlyniadau yn yr arddangosfa hon.
Y tu allan i leoliadau addysgol gall fod yn anodd cael mynediad i'r celfyddydau. Gall aelodau'r gymuned wynebu rhwystrau megis lleoliadau diwylliannol anhygyrch, cyfyngiadau ariannol neu ddiffyg hyder. Mae Cysylltu/Connect yn mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn trwy gyflwyno gweithdai o safon dan arweiniad artistiaid gyda thri grŵp cymunedol; Grwpiau Cymorth Awtistiaeth ac Ieuenctid y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru, a Grŵp Cymorth Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid. Gan gyfuno gweithdai ar y safle ac oddi ar y safle, roedd y sesiynau’n llwyfan ar gyfer datblygiad creadigol a gwella rhyngweithio cymdeithasol, iechyd meddwl, a llesiant. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i roi cynnig ar wahanol gyfryngau a gweithio'n agos gydag amrywiaeth o artistiaid proffesiynol medrus iawn. Mae’r gwaith maen nhw wedi’i greu yn dyst i lawenydd creadigrwydd a’r doniau sydd yma yn Abertawe.
Diolch yn Fawr:
EYST
Chinese In Wales Association
Cwmpas
Jenny Phillips, Lisa Burkl , Lee John Phillips , Lowri Davies, Bronwen Gwillim, Carole King, Lucy Donald, Osian Grifford, Tomos Sparnon, Owain Sparnon, Amy Treharne, Elin Manon, Bill Taylor Beales, Alison Warren, Sarah Holden, Nese and Armagan Aydin