Llif / Flow Logo

Mae Flow yn brosiect trosfwaol sy’n cynnwys cynigon artistig unigol gan bum artist blaenllaw. Mae’r artistiaid blaenllaw hyn fel arfer yn gweithio ar wahân i’w gilydd, ondmaent yn dod at ei gilydd yn benodol i archwilio cydweithio diwylliannol gyda phobl greadigol yng Nghymru. 

Mae Flow yn gyfrwng ar gyfer ymchwilio a datblygu’r cynigion artistig hyn. Mae’n canolbwyntio ar y potensial yn y dyfodol o greu pum cyd-greadigaeth rhwng deg ymarferydd o Bacistan a Chymru, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o arbenigeddau a’r potensial i gyrraedd mudiadau a rhwydweithiau cymunedol ehangach. 

Bydd Oriel Mission yn cefnogi’r artistiaid drwy’r ymchwil a’r datblygu fel hwylusydd ac, wrth i’r cyd-greadigaethau ddatblygu, i gynllunio ar gyfer cynhyrchu neu gyflwyno yn y dyfodol.

Mae Flow yn rhan o raglen Bacistan/Persbectifau Newydd y DU y Cyngor Prydeinig i ddathlu 75 mlynedd o Bacistan. #PKUKCelebrating75 

Zohra Amarta Shah a Llio James

Zohra Amarta Shah a Llio James

Mae gwaith Zohra yn canolbwyntio ar fenywod sy’n ymwneud â thecstilau traddodiadol ym Mhacistan a Chymru. Mae hi’n credu bod menywod unigol yn gallu creu gofod a grymuso eu hunain ac eraill o safbwynt gwybodaeth a sgil drwy ymarfer crefft draddodiadol. Mae merched yn dysgu’r grefft draddodiadol hon gan eu mamau, gan drosglwyddo’r ddawn gynhenid o un genhedlaeth o fenywod i’r genhedlaeth nesaf.

---

Mae Llio yn wehydd llaw cyfoes yn cwmpasu cynlluniau traddodiadol i iaith heddiw. Mae hi'n wedi fy swyno gyda brethyn sydd ag effaith ar ein bywydau bob dydd. Cawn ein geni wedi ein lapio o fewn defnydd. Gwisgwn ddefnydd nesa at ein croen. Teimlwn garped o dan ein traed, cerddwn ar loriau pren a choncrit ac weithiau hyd yn oed rhedeg ar gobls stryd. Eisteddwn i ddiogi neu orffwys ar beth bynnag sy’n cysuro’n cyrff. Mae brethyn a gwead ymhobman a hyn sy’n ysbrydoli Llio.


Shanzay Subzwari a Lauren Heckler

Shanzay Subzwari a Lauren Heckler

Boed hynny ar ffurf peintiad, fideo, torri papur neu osodiad, mae gwaith Shanzay yn olrhain ei thaith bersonol o archwilio gwahanol agweddau ar fodolaeth a phrofiadau pobl yn y byd hwn, yn ogystal â’r perthnasoedd cymhleth rhwng gwledydd sy’n newid byth a hefyd. Mae ei hyfforddiant ym maes peintio Minifed Moughal yn dylanwadu ar ei gwaith, ac mae’n arwain at grwydr i waith cymdeithasol-wleidyddol â dylanwad-diwylliant-poblogaidd, gan gynnwys elfennau o bapurau arian cyfred. 

---

Mae Lauren yn artist gweledol ac yn addysgwr sydd â diddordeb mewn archwilio’r cylchol, y rhyngweithio, y cyfnewid, y cydgyfnewid a’r haelioni, gyda phobl a’r amgylchedd. Mae cydweithio a sgwrsio yn rhan annatod o’i phroses, sy’n aml yn dod i’r amlwg mewn gosodiadau, darluniau, fideos, perfformiadau a gweithgareddau ymgysylltu cymdeithasol. Yn wreiddiol o lannau aber ym mhentref Llansteffan, mae hi wedi’i lleoli yn nhref farchnad y Fenni ar hyn o bryd.


Rameesha Azeem a Eddie Ladd

Rameesha Azeem and Eddie Ladd

Mae gwaith Rameesha yn archwilio’r syniad o’r corff dynol a’r hyn sydd yn agos ato, drwy ei ddatgelu mewn ffurfiau amrywiol, amwys a darniog. Mae’r gwaith yn deillio o brofiadau uniongyrchol o anatomi dynol tra’n cwestiynu’r dieithriad rhwng y gwyliwr a’r sawl sy’n cael ei wylio. 

---

Mae Eddie wedi bod yn berfformiwr theatr gorfforol ers oes pys. Bu’n gweitho gyda nifer o gwmnïau Cymreig a chyda Brith Gof yn neilltuol am ddegawd tan y flwyddyn 2000. Gan ddechrau ar ei gwaith ei hun tua 1989, lluniodd rai darnau ar gyfer adeilad theatr (ond ar borfa, peiriant rhedeg ac mewn blawd serch hynny) tra llwyfannwyd eraill mewn safleoedd arbennig megis tai teras, closydd fferm a chaeau. Cafodd rhai ohonynt deithio ledled Ewrop.


Ayessha Quraishi a Mererid Hopwood

Ayessha Quraishi and Mererid Hopwood

Mae ei phroses beintio yn edrych fel braille. Yn gorfforol, mae hi’n cadw cysylltiad cyson â’r arwyneb a’r paent, gan roi lliw gyda’i dwylo a’i dynnu gyda chlwt wedi’i socian mewn tyrpentin. Mae’r gyfres hon o symudiadau ac ystumiau dwylo ailadroddus dros gyfnod o bedair i chwe awr yn arwain at iaith reddfol o farciau dilynol. Mae’r ddeuoliaeth rhwng ffurf ac anffurf, gwneud a dad-wneud, ychwanegu a thynnu, yn astudiaeth o’r cof, absenoldeb a phresenoldeb, gwahanu ac uno.

---

Daeth yr Athro Mererid Hopwood i Gadair Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, ym mis Ionawr 2021. Mae wedi treulio ei gyrfa ym myd ieithoedd, llenyddiaeth, addysg a’r celfyddydau. Mae wedi cyfansoddi geiriau ar gyfer cerddorion, artistiaid gweledol a dawnswyr, ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America.

 

Maheen Zia a Ingrid Murphy

Maheen Zia ac Ingrid Murphy

Mae Maheen Zia yn wneuthurwr ffilmiau o Karachi. Mae ei gwaith dogfennol wedi cael sylw’n lleol ac yn rhyngwladol ar Al Jazeera, Nat Geo, NHK, Geo Television Network, Aaj Television a Sama Television. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar ei hail nodwedd ddogfennol sy’n edrych ar gylchdeithiau gwyliau’r trefi bach yn ei mamwlad.

---

Mae gwaith Ingrid yn canolbwyntio ar integreiddio technolegau newydd a datblygol ag arferion crefft traddodiadol. Mae hi'n defnyddio cyfrifiadura corfforol i wneud gwrthrychau seramig sy'n ymateb i gyffyrddiadau, gan fanteisio ar ddargludedd llewyrch seramig i greu arwynebau adweithiol, gan alluogi gwrthrychau domestig cyffredin i ddod yn rhyngwynebau ar gyfer sain a chynnwys cyfryngau eraill.



 

Llif / Flow logo mark

Ymarferwyr o Bacistan:

Rameesha Azeem | Ayessha Quraishi | Zohra Amarta Shah | Shanzay Subzwari | Maheen Zia

Llif / Flow logo mark

Ymarferwyr o Gymru:

Eddie Ladd | Mererid Hopwood | Lauren Heckler | Ingrid Murphy | Llio James

Llif / Flow logo mark 

 


 

Gwybodaeth am Bacistan/Persbectifau Newydd y DU

 

Gan nodi 75 mlynedd o fodolaeth Pakistan, bydd Safbwyntiau Newydd y DU/Pacistan yn cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a mis Awst 2022. Mae’r rhaglen yn arddangos cyfoeth diwylliannol a chreadigrwydd cyfoes y ddwy wlad; yn hwyluso cydweithio proffesiynol ar gyfer y sectorau diwylliant, creadigol ac addysg; ac yn canolbwyntio ar ddyfodol ar y cyd drwy feithrin partneriaethau sy’n para. Yn canolbwyntio ar herio canfyddiadau, yn enwedig ymysg y genhedlaeth iau yn y ddwy wlad. Bydd rhaglen eang yn edrych ar gydweithio ar draws themâu diwylliant a threftadaeth; yr amgylchedd a chynaliadwyedd a menywod a merched. 

 

#PKUKCelebrating75

Twitter: @pkBritish
Facebook: BritishCouncilPakistan
Instagram: BritishCouncilPakistan
Gwefan: BritishCouncilPKUK

 

 Logo British Council Cymru   Pakistan/UK New Perspective Logo   Llif / Flow logo

100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy