Beth rydyn ni’n ei gynnig i ysgolion 

 

Sgyrsiau Oriel

Mae’r sgyrsiau anffurfiol hyn yn para tua 20-30 munud ac fe’u cynhelir yn y prif ofod arddangos/siop. Rhown ni gyflwyniad i chi i’n harddangosfa bresennol, hanes byr Oriel Mission a chau pen y mwdwl gyda sesiwn holi ac ateb.

Rhaid archebu lle

Uchafswm o 30 myfyriwr

Ar gael yn y Gymraeg

Am ddim

 


 

Gweithdy Celf mewn Ysgolion

Gan weithio gydag artist proffesiynol yn eich ystafell ddosbarth, gallwn drefnu a chyflwyno gweithdy celf wedi’i deilwra ar gyfer anghenion ein dysgwyr. Byddwn yn eich darparu â’r holl ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gweithdy. Bydd pob gweithdy’n para 2 awr.

 

Rhaid archebu lle

Bore neu brynhawn

Cyfraniad a awgrymir £100

 


 

Gweithdy 1 awr

Cynhelir y sesiynau byrrach hyn yn Mission Gallery, ac maent yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau sy’n chwilio am rywbeth newydd ond eu bod yn gweithio o fewn amserlen dynn. Dan arweiniad y tîm dysgu, byddwn yn gweithio gyda chi i drefnu awr o hwyl. Caiff y gweithdai hyn eu hysbrydoli gan ein harddangosfa gyfredol, ond gellir eu cysylltu ag unrhyw fodiwlau/themâu y mae eich disgyblion yn eu hastudio.

Rhaid archebu lle

Cyfraniad a awgrymir £50

 

Ein Abertawe, Ein Straeon

Ein Abertawe, Ein StraeonRace Council Cymru

09 Tachwedd - 16 Tachwedd 2024

Mwy