Arwain Gweithdy
Dosbarthiadau Meistr Criw Celf
Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn cyflwyno dosbarth meistr ar ein Prosiectau Criw Celf, cliciwch ar y botwm i gwblhau’r ffurflen ar-lein.
Cwblhau’r ffurflen dosbarth meistr
Gweithdai Oriel Mission
Rydyn ni bob amser yn cadw llygad am athrawon gwych ac ymarferwyr talentog i ymuno â’n rhaglen addysg. Rydyn ni’n trefnu rhaglen amrywiol o ddosbarthiadau undydd i weithdai deuddydd i ddosbarthiadau meistr sy’n ymestyn dros wythnosau neu fisoedd. Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn arwain sesiwn yn ein rhaglen addysg, anfonwch atom:
• Gais ar gyfer eich gweithdy, gan nodi’n glir os mai ar gyfer oedolion neu blant y mae.
• CV cyfredol.
• Anfonwch eich cais at: megan@missiongallery.co.uk
Gweithio gyda phlant: bydd gofyn bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwiriad GDG helaethach (os yn gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed), yn llofnodi ffurflen hunanddatgelu a darparu geirda cyn y gall gweithdy fynd yn ei flaen. Dyma ran o’n proses recriwtio mwy diogel.
Adolygir yr holl geisiadau bob tri mis gan ein tîm addysg.