Gwneud Cais i Arddangos
Mae Oriel Mission yn ymrwymedig i ddangos y gwaith gorau yn y celfyddydau gweledol a chymhwysol gan ddoniau cenedlaethol a rhyngwladol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau’n uniongyrchol gan artistiaid. Mae gynnon ni ddau gofod y gall artistiaid wneud cais i arddangos ynddynt:
Yr Oriel
Dyma ein prif ofod arddangos, wedi’i neilltuo i ddangos a gwthio ffiniau’r celfyddydau gweledol a chymhwysol.
Y Gwneuthurwr
Gofod arddangos unigryw a leolir mewn man amlwg yn ein siop ac wedi’i neilltuo i ddangos gwaith gwneuthurwyr a dylunwyr talentog.
Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn gwneud cais am un o’r cyfleoedd arddangos yma, darllenwch y gofynion ar gyfer pob adran isod. Rhaid i bob cais gael ei anfon at apply@missiongallery.co.uk. Dylech nodi’n glir pa ofod rydych yn gwneud cais i arddangos ynddo o dan y llinell bwnc.
Ni allwn dderbyn ceisiadau a gyflwynir yn bersonol i’r oriel.
Bydd y Tîm Arddangosfeydd yn cyfarfod bob 4 mis i adolygu cyflwyniadau.
Rydym yn rhaglennu tua 1-2 flynedd ymlaen llaw.
Y Gofod Arddangos
Eich cais
Tua 10 ffotograff da o’ch gwaith.
CV a bywgraffiad cyfredol.
Dewisol: Dolen â’ch gwefan, tudalen Instagram neu Facebook.
Lawrlwytho Canllawiau’r Gofod Arddangos
Y Gwneuthurwr
Paragraff byr amdanoch chi a’ch gwaith.
Tua 5 ffotograff da o’ch gwaith.
CV a bywgraffiad cyfredol.
Dewisol: Dolen â’ch gwefan, tudalen Instagram neu Facebook.
Lawrlwytho Canllawiau y Gwneuthurydd