Ein cenhadaeth
Mynd ati ar y cyd i ddatblygu a chyflwyno rhaglen arloesol sy’n gynhwysol ac yn unigryw i Gymru; canolbwyntio ar ymarferwyr, bod yn uchelgeisiol yn artistig, a chyfoethogi bywydau pawb dan sylw.
Ein gwerthoedd a’n ffocws:
● bod yn gynaliadwy ac yn uchelgeisiol; o safbwynt ni ein hunain, ymarferwyr creadigol, a'n cymunedau lleol
● datblygu cyfleoedd ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol a chefnogi ymarfer annibynnol ar y cyd
● datblygu cyfleoedd i ddysgu a chydweithio'n ystyrlon; rhwng ymarferwyr, cymunedau, sefydliadau a darparwyr addysg
● mynd ati i chwilio am bartneriaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a fydd yn gwella dealltwriaeth ddiwylliannol a chydfuddiannaeth
● meithrin a chefnogi ymarfer celfyddyd gyfoes sy’n cael ei yrru gan fwriad didwyll, sy'n seiliedig ar sgiliau, yn gwerthfawrogi deunyddiau ac yn ystyried y gynulleidfa
● hyrwyddo Oriel Mission, y lleoliad yn ogystal â'r sefydliad, fel lle diogel i ddilyn a mwynhau ymarfer creadigol; i bawb.
Mae Oriel Mission yn un o’r llefydd mwyaf ysbrydoledig yng Nghymru am Gelfyddydau cyfoes. Gwagle unigryw, sydd yn bensaernïol brydferth, adeilad sydd yn adnodd cyfoethog i’r gymuned leol ac ehangach yn darparu cyfleoedd arddangos i artistiaid ar bob lefel a phrofiad, wrth ddatblygu mwynhad, deallusrwydd a gwybodaeth celf ein cynulleidfaoedd.
Wedi ei ddechrau gan artistiaid yn 1977 fel ‘Oriel Gweithdy Gelf Abertawe’, mae Oriel Mission ers hynny wedi datblygu enw da’n genedlaethol a rhyngwladol am arddangos rhaglen ddeinamig a gwahanredol. Gyda hanes ardderchog am ddarpariaeth dros ddeugain mlynedd ac enw da am gefnogi a meithrin artistiaid, mae Oriel Mission yn cymryd risgiau; gan ddangos gwaith uchelgeisiol, amrywiol o artistiaid sefydledig ac ymddangosedig, o Gymru ac ymhellach, ac ar draws pob disgyblaeth. Mae gan Oriel Mission Raglen Addysg a Chyfrannu ffyniol sydd yn targedu pob oedran a gallu, gan adeiladu partneriaethau a chydweithrediad diwylliannol cryf a hir o fewn sefydliadau artistig ac addysgol.
Wedi ei ymgartrefi mewn adeilad hanesyddol Gradd ll yn Ardal Forol Abertawe, dechreuodd Oriel Mission ei fodolaeth fel corff gwirfoddol wedi'i rhedeg gan artistiaid, gan esblygu i sefydliad proffesiynol a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2003. Fe’i rheolir gan fwrdd gwirfoddol o gyfarwyddwyr, cynhelir y goruchwylio, rhaglennu a rhedeg gan dîm bach a chysegrol staff a gwirfoddolwyr. Mae gan Oriel Mission enw da am adeiladu partneriaethau ystyrlon a chynaliadwy ar draws y ddinas, yn enwedig gyda Choleg Celf Abertawe sydd yn bartner allweddol.
Ein Hanes
1868
Eglwys San Nicolas, Cenhadaeth Forwyr anenwadol a adeiladwyd gan Benjamin Bucknall.
1977
Agorodd Gweithdy Celfyddydau Abertawe i’r cyhoedd fel Oriel Gelf oedd yn cynnwys gofod i arddangosfeydd a gweithdai. Cafodd ei redeg gan wirfoddolwyr fel rhan o Gymdeithas yr Artistiaid a Dylunwyr.
1992
Daeth Gweithdy Celfyddydau Abertawe yn oriel annibynnol.
1998
Mabwysiadodd Gweithdy Celfyddydau Abertawe yr enw Oriel Mission. Yn cael ei hyrwyddo fel un o Orielau Dethol y Cyngor Crefftau.
2003
Yn dod yn gleient refeniw i Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) gan dderbyn cyllid craidd ar gyfer ei rhaglen arddangosfeydd ynghyd â’r ddwy swydd gyflogedig gyntaf yn ei hanes.
2008
Yn dod yn sefydliad dielw.
2011
Oriel Mission yn derbyn codiad yn ei chyllid craidd gan CCC.
2012
Caffael llawr cyntaf Eglwys San Nicolas. Llofnodir prydles 30 mlynedd gyda Dinas a Sir Abertawe ar gyfer yr adeilad cyfan.
2012
Cyllid gan CCC ar gyfer atgyweirio a datblygu’r llawr cyntaf yn ofod arbennig i addysg.
2013
Cynhelir astudiaeth ddichonoldeb o Oriel Mission a ariennir gan CCC i edrych ar y posibilrwydd o ailddatblygiad cyfalaf sylweddol.
2015
Oriel Mission yn derbyn cyllid sylweddol gan CCC ar gyfer dau brosiect mawr: ein rhaglen addysg draws-sirol flaenllaw, Criw Celf y Gorllewin ac Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Iaith Clai. Y ddau brosiect bellach wedi’u gwarantu tan 2019.
2016
Cydweithrediadau, prosiectau a chyfnewidiadau pwysig yn cael eu datblygu gyda sefydliadau diwylliannol yn Efrog Newydd a Fenis gan adeiladu gwaith rhyngwladol Oriel Mission drwy raglenni, partneriaethau a phreswyliadau.
2017
Mission yn 40 oed! Oriel Mission yn dathlu ei ben blwydd yn 40 oed gydag arddangosfa a digwyddiad codi arian gyda’n Staff, Bwrdd, Gwirfoddolwyr, Cyfeillion, Partneriaid ac Artistiaid.