Polisi Ymwelwyr Oriel Mission (Medi 2022)
Ein blaenoriaeth yw’ch cadw chi a’n staff yn ddiogel. Rydyn ni wedi diweddaru ein polisïau ac asesiadau risg yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a’r DU.
Amserau Agor:
Ein horiau agor yw dyddiau Mercher – Sadwrn 11yb – 5yp.
Bydd unrhyw ddiweddariadau i’r rhain yn cael eu postio ar ein gwefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Insta: @missiongalleryswansea
Facebook: @mission.gallery
Twitter: @MissionGallery
Diogelu chi a’n hymwelwyr
-
Defnyddiwch y diheintydd dwylo sydd wedi ei leoli o fewn mynediad yr oriel.
-
Cadwch bellter o ymwelwyr a staff eraill os gwelwch yn dda. Yn ystod adegau prysur, efallai mi fydd rhaid i ni gyfyngu ar nifer yr ymwelwyr sy’n cael dod i’r adeilad.
-
Mae gennym ni drefniadau glanhau trylwyr. A wnewch chi ein helpu drwy beidio â thrafod eitemau â llaw yn y siop, oni bai’ch bod yn bwriadu eu prynu.
Prynu eitemau o’r siop neu’r oriel
Dim ond taliadau cerdyn gall Oriel Mission eu derbyn bellach, digyffwrdd lle bo’n bosibl. Bydd y peiriant cardiau’n cael ei lanhau bob tro ar ôl cael ei ddefnyddio. Nid ydym yn gallu cymryd taliadau arian parod. Mae gennym ni sgrin diogelwch plastig ar y dderbynfa / desg flaen.
Teimlo’n dost
Os ydych chi neu rywun rydych chi wedi bod mewn cysylltiad ag e’n ddiweddar yn dangos symptomau o COVID-19, dylech ohirio’ch ymweliad â’r oriel.