Hysbysiad ynglŷn â Phreifatrwydd ar y Wefan
Bydd yr hysbysiad yma ynglŷn â phreifatrwydd ar ein gwefan yn nodi’r data a gesglir ganddi a sut mae’n cael eu defnyddio. Os oes gynnoch chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data: data@missiongallery.co.uk
Ein Rhestr Bostio
Os ydych am ymuno â’n rhestr e-bostio (a bwerir gan MailChimp), gofynnwn i chi am y data canlynol:
Eich enw
Cyfeiriad e-bost
Caniatâd a Datdanysgrifio: Wrth ymuno â’n rhestr e-bostio, rydych yn rhoi caniatâd wrth gofrestru.
Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg ac mae dolen ddatdanysgrifio gan ein holl ymgyrchoedd e-bost yn nhroedyn yr e-bost (ar waelod yr e-bost).
Ein Siop
Os ydych yn dewis prynu eitem o’n siop ar-lein (a bwerir gan iZettle), mae angen y data canlynol:
Eich enw
Cyfeiriad e-bost
Cyfeiriad post
Cyfeiriad bilio
Gwybodaeth dalu (gwybodaeth am eich cerdyn)
Mae angen y data yma i iZettle brosesu’r taliad. Prosesir yr holl ddata hyn yn ddiogel gan iZettle ar eu gweinyddion ac nid ar rai Oriel Mission. Mae iZettle yn cydymffurfio’n llwyr â PCI DDS. Nid yw iZettle yn rhannu manylion llawn eich taliad â ni.
Yr unig ddata y gall staff Oriel Mission fynd atynt yw:
Eich enw
Cyfeiriad e-bost
Cyfeiriad post
Mae angen y rhain i ni brosesu a gyrru’ch archeb atoch.
Archebu ar gyfer Digwyddiadau
Os ydych yn dewis archebu ar gyfer digwyddiad ar-lein, mae’r system archebu rydyn ni'n ei defnyddio (a bwerir gan Eventbrite) yn gofyn am y data canlynol;
Eich enw
Cyfeiriad e-bost
Cyfeiriad post
Cyfeiriad bilio
Gwybodaeth dalu
Mae angen y data yma i ni brosesu taliadau a chadarnhau’ch archeb.
Prosesir yr holl ddata’n ddiogel gan Eventbrite ac ar eu gweinyddion.
Ni fyddwn yn defnyddio’r data hyn ond i gyflawni’ch archeb a rhoi’r diweddaraf i chi am eich archeb os oes angen.
Ni rennir unrhyw wybodaeth dalu â ni.
Gwasanaethau
Google Analytics
Rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i ddeall yn well sut mae ymwelwyr yn defnyddio ac yn llywio eu ffordd drwy ein gwefan.
Rydyn ni’n casglu’r data canlynol:
Eich lleoliad (drwy’ch IP)
Defnydd o’r wefan (y tudalennau yr ymwelwyd â nhw a’r dolenni y cliciwyd arnynt)
Efallai y byddwn yn rhannu’r data hyn â:
Staff Oriel Mission
Bwrdd Cyfarwyddwyr Oriel Mission
Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae’r wybodaeth hon yn ddienw. Gallwch ddarllen mwy am sut mae Google yn defnyddio’ch data fan hyn: https://www.google.com/intl/en/policies/privacy
Gallwch hefyd optio allan o Google Analytics fan hyn:
https://tools.google.com/dlpage/gaoptout
Cwcis
Rydyn ni’n casglu gwybodaeth ddyfais gan ddefnyddio ‘cwcis’. Ffeiliau data yw’r rhain sy’n cael eu gosod ar eich dyfais neu gyfrifiadur ac yn aml yn cynnwys dyfais adnabod unigryw ddienw. Am fwy o wybodaeth am gwcis a sut i’w hanablu, ewch at: http://www.allaboutcookies.org
Gwefannau eraill
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni â gwefannau eraill sydd y tu allan i’n rheolaeth a ddim yn cael eu cynnwys yn yr hysbysiad preifatrwydd yma. Dylech edrych ar eu hysbysiadau preifatrwydd hwythau.
Ffurflenni Google
Rydyn ni’n defnyddio ffurflenni Google ar rai rhannau o’n gwefan i gipio amrywiaeth o wybodaeth. Bydd pob ffurflen yn amlinellu’r data sy’n cael eu casglu, eu diben ac am ba hyd y maent yn cael eu cadw. Prosesir yr holl ddata’n ddiogel a’u storio gan ddefnyddio gsuite.