Delwedd o'r artistiaid Shanzay Subzwari a Lauren Heckler

Dechreuodd cyfeillgarwch Shanzay a Lauren dros sgyrsiau Whatsapp dros gyfnod o flwyddyn a hanner fel rhan o raglen Llif / بہاؤ / Flow wedi’i hariannu gan Cyngor Prydeinig Cymru a ddaeth â 5 artist o Bacistan a 5 artist o Gymru at ei gilydd, ac mae eu gwaith yn dyst i’r cyfeillgarwch hwnnw.

Yn dilyn cais llwyddiannus, arddangoswyd eu gwaith cydweithredol yng Ngŵyl WOW Pacistan 2024, gyda diolch i gyllid gan Gyngor Prydeinig Cymru.

Shanzay Subzwari | Lauren Heckler

 


 

Mae Shanzay Subzwari a Lauren Heckler yn archwilio profiad sain cydweithredol, gan feithrin trafodaeth ar ddiddordebau cyffredin mewn themâu cymdeithasol-wleidyddol, ffiniau, poblogrwydd a/neu ddiwylliant defnyddwyr Pacistan a Chymru.’

Mae eu darn sain cydweithredol They Send Each Other Love yn sgwrs 50 munud rhyngddynt ar WhatsApp. Roedd y ddau wedi eistedd mewn mannau o harddwch naturiol (yn Karachi, Pacistan a’r Fenni, Cymru), a symud drwy amrywiaeth eang o bynciau oedd yn amrywio o’u profiadau unigol, i’w hamgylchedd, eu diwylliannau a’u nodweddion tebyg. Cafodd y darn hwn, gyda thestun disgrifiad sain cysylltiedig, ei arddangos yn gyntaf yn Oriel Mission, Abertawe ym mis Ionawr 2023.

Ar ôl cydweithio’n ddigidol yn bennaf, roedd Lauren a Shanzay wedi gallu cwrdd yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2023.

Delwedd o sgrin sydd yn cynnwys gwaith cydweithredol Lauren Heckler a Shanzay Subzwari 'They Send each Other Love' yng ngwyl WOW Pakistan 2024

 

Am Sefydliad Menywod y Byd 

Mae Sefydliad Menywod y Byd yn bodoli i feithrin, cynnull a chynnal mudiad byd-eang sy’n credu bod byd sy’n gyfartal o ran rhywedd yn ddymunol ac yn bosibl a bod taer angen byd o'r fath.

Sefydlwyd WOW - Menywod y Byd gan Jude Kelly yn 2010. Ers hynny, mae Gwyliau WOW sy’n dathlu menywod a merched, ac sy’n edrych yn onest ar y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, wedi cael eu cynnal ledled y byd, gan gyrraedd pum miliwn o bobl hyd yma.

Drwy wyliau, digwyddiadau, rhaglenni ysgolion a mwy, mae WOW yn herio’r gred bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau eisoes wedi’i gyflawni – ac yn gobeithio cysylltu’r dotiau rhwng pobl, mudiadau a syniadau er mwyn newid y byd.

Hyd yma, mae WOW wedi cynnal dros 100 o wyliau a digwyddiadau ar draws chwe chyfandir, gan gyrraedd dros bum miliwn o bobl.

 

Logo Cyngor Prydeinig Cymru

 
100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy
Teyrnged i integreiddio

Teyrnged i integreiddioMLArt: Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys and Joel Morris

31 Mai - 06 Gorffennaf 2024

Mwy