Dysgu yn Oriel Mission
Mae Oriel Mission yn cynnig rhaglen ddysgu gyffrous, ddifyr a hygyrch. Wrth galon yr hyn a wnawn mae creadigrwydd, crefft a gweithdai dan arweiniad artistiaid. Mae ein rhaglen allgymorth a dysgu yn gweithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol, ysgolion a'n cymunedau lleol drwy brosiectau dan arweiniad artistiaid. Rydym yn credu ym mhŵer trawsnewidiol y celfyddydau a’u gallu i effeithio ar addysg, pobl ifanc a’n cymunedau ehangach er gwell.
Mae cyd-guradu yn hanfodol i'n hymarfer, gyda rhaglenni'n cael eu datblygu ar y cyd â chymunedau, artistiaid a phartneriaid.
Os oes gennych chi syniadau neu gwestiynau am addysg yn Oriel Mission, cysylltwch â'n tîm allgymorth – Megan a Safi.






