Y Sgrin

  • Header image

Here CollectiveSiân Addicott

06 Ebrill - 14 Mehefin 2019

6 Ebrill- 26 Ebrill: Kaylee Francis

27 Ebrill - 20 Mai: Chloe Davies

21 Mai - 08 Mehefin : Saba Humayun

09 Mehefin - 14 Mehefin: Y tri artist uchod

 

Oherwydd fy mod i yn y sefyllfa freintiedig o dderbyn cynnig i arddangos yng ngofod […]  yn Oriel Mission, dw i wedi penderfynu ar ôl tipyn o bendroni roi’r cyfle i dri artist sy’n llai tebygol o fod wedi derbyn gwahoddiad o’r fath.  Mae’r ymyriad bach hwn yn cael ei wneud gyda’r bwriad o gyfrannu at wastatáu hierarchaethau sydd wedi’u rhwydweithio ac i greu disgwyliadau newydd i’r organeb gymdeithasol i ffwrdd o rym ac elw.

Gan weithredu fel actifydd-curadur, hoffwn sicrhau bod rhai lleisiau difreintiedig yn cael eu codi’n uwch, lleisiau prin eu bod yn cael eu clywed mewn cyd-destunau fel orielau cyhoeddus. Y syniad yw dechrau gyda thrioleg o safbwyntiau ffotograffig sydd wedi’u tynnu o’r tu hwnt i’r meysydd arferol, safbwyntiau anweledig nas clywir yn y person cyntaf ar y testunau sy’n llarpio eu dychymyg. Ar ôl yr arddangosfa hon, bydd y tri unigolyn yn gwahodd mwy o leisiau ymylol ond grymus i’r fenter i ddatblygu eu rhwydwaith eu hunain gan ymestyn eu polemeg arbennig eu hunain. Yn eu tro, bydd tri llais arall yn cael eu hychwanegu er mwyn i’r Here Collective barhau i dyfu a tharfu ar naratifau traddodiadol wrth godi ymwybyddiaeth o artistiaid sydd wedi’u tangynrychioli.

- Siân Addicott

 

Delwedd: Di-deitl gan Saba Humayun

<< Yn ôl tudalen