Y Sgrin

  • Header image

Daethon ni, pysgoton ni, gorchfygon ni!Geraint Rhys

05 Ionawr - 12 Chwefror 2022

Ar ôl blynyddoedd o gael ei esgeuluso, mae Pier y Gorllewin yn Abertawe wedi cael ei adfywio. Wrth i Awdurdod Porthladdoedd Prydain ddechrau atgyweirio’r pier drylliedig, fe ddechreuon nhw newid adeiladwaith sydd, er yn dirywio ers blynyddoedd, wedi parhau’n lleoliad anhepgor i frodorion Abertawe bysgota, ymlacio, cymdeithasu a dianc rhag y ddinas.

Am fisoedd cyn dechrau’r gwaith adeiladu, mi ddechreuais i ddogfennu’r bobl sy’n gwneud i’r lle hwn mor unigryw. Yr hyn y gwnes i ei ddarganfod yw’r brithwaith rhyfeddaf o amrywiaeth, cydnerthedd a dyfeisgarwch o ran y bobl sy’n mynychu’r rhan hon o’r ddinas sydd yn aml yn cael ei hanghofio.

<< Yn ôl tudalen