Y Sgrin

  • Header image

BreatheChris Bird-Jones a Malcolm Glover

17 Tachwedd - 09 Ionawr 2021

Canlyniad yw Breathe i waith y ffotograffydd Malcolm Glover gyda Chris Bird-Jones. Gwahoddwyd Glover gan Bird-Jones i weithio ochr yn ochr â hi wrth iddi ymchwilio i wneud gwydr yn Firozabad, calon y diwydiant gwydr yn Uttar Pradesh, India. Treuliodd y ddau artist wythnosau yn amgylchedd blêr (a hynod beryglus) y ffatrïoedd gwydr. Y bwriad ar y dechrau oedd dogfennu’r diwydiant gwydr a’i weithwyr; fodd bynnag, yn fuan daeth yn amlwg i’r ddau artist y gallent wneud darn o waith sy’n fwy treiddgar. Casgliad o bortreadau yw’r gosodwaith fideo a ddeilliodd o hyn, gyda thestun pob un yn sefyll yn llonydd o flaen cefnlen o ffwrneisi, gwres ffyrnig, sŵn byddarol a bwrlwm gwyllt ei gydweithwyr wrth iddynt fynd o gwmpas eu tasgau gyda chywreinrwydd coreograffig bron. Mae’r gwaith yn dathlu buddugoliaeth yr unigolyn ac mae rhyw serenedd rhyfedd yn perthyn i’r testunau mewn cyfansoddiadau sydd ar brydiau bron â bod yn feiblaidd ac ar adegau eraill yn ddigrif, a phob amser yn deimladwy iawn. Fel y dywed Bird-Jones, “I ni, daeth y ffatrïoedd yn fetaffor am India a’i phobl… dyma beth roedden ni’n ceisio ei gyfleu yn y gwaith.”

Cefnogwyd yn hael gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chronfa India/Cymru y Cyngor Prydeinig.

Yn 2019 dangoswyd Breathe yn Labordy Celfyddydau Wave of Dreams, St Leonard’s-on-Sea ac yn lansiad Gŵyl 51zero 2019, gŵyl ryngwladol y ddelwedd symudol a chelfyddyd gyfoes yng Nghadeirlan Rochester. Dyma'r dangosiad cyntaf o Breathe yng Nghymru.

 

  

Breathe Logo Board

<< Yn ôl tudalen