Y Wal

  • Header image

Tom MorrisY Wal

25 Awst - 25 Medi 2021

Artist sydd yn arbenigo mewn arlunio, paentio a phrintio sgrin, ac sydd wedi ei selio yn Abertawe yw Tom Morris.

Y grym sy’n gyrru ysbrydoliaeth artistig Tom yw dangos teyrnasoedd gweledigaethol sy’n awgrymu trosgynoldeb a dirgelwch. Mae themâu breuddwydion sy’n digwydd dro ar ôl tro, amser cylchol a theithio rhwng dimensiynau yn dylanwadu ar naratifau’r paentiadau cyfryngau cymysg.

Mae hanfodion ei waith celf yn cwmpasu defnyddio amrywiaeth helaeth o ddeunyddiau a thechnegau. Mae’r alcemi o gymysgu paent, gludwaith, ffurfiau naturiol a siapiau haniaethol yn ddilyffethair yn caniatáu proses hylifol reddfol. 

<< Yn ôl tudalen