Y Wal

  • Header image

Sarah JonesTirweddau Bywyd

14 Mai - 25 Mehefin 2022

Daw fy ngwaith o ryw fangre lawn teimladau ac emosiynau mewnol lle y bydda i’n arbrofi ag agweddau therapiwtig celfyddyd. Gan dynnu ar fy mhrofiad fy hun o drawma fel rhiant i blentyn â chancr, dw i’n defnyddio’r broses o wneud celfyddyd i gyfleu beth dw i’n ei gael yn anodd ei fynegi mewn geiriau. Dw i’n coleddu gwerth, bregustra a sensitifrwydd pob deunydd drwy wneud marciau, gwead a chyffyrddiad dynol agosatoch.

Mae’r gyfres hon o waith, Life’s Landscapes, yn ymwneud â chreu llinellau amser ac â sylwi ar eiliadau; y gorffennol, presennol a’r dyfodol, tywyllwch a golau, amrwd a meddal, carchariad a rhyddhad. Mae’r cyfansoddiadau llinellau amser yma’n dod yn olygfeydd eang sy’n mapio tirweddau emosiynol y cof a disgwyliad fel naratif gweledol.

.

<< Yn ôl tudalen