Y Wal

  • Header image

Sally HandsY Wal

18 Tachwedd - 09 Ionawr 2021

Gwneuthurydd printiau sydd wedi hen ennill ei phlwyf yw Sally sy’n byw yn Abertawe. Mae hefyd yn rhoi gwersi piano ac yn gweithio fel athrawes ran-amser i Brosiect Gofal yn y Gymuned. Derbyniodd grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym 1997 a 2012 ynghyd â Gwobr John Purcell yn yr Arddangosfa Printiau Gwreiddiol Genedlaethol yn 2017.

Bydd Sally yn arlunio delweddau o dde Cymru. Mae ei phrintiau gwreiddiol yn cael eu hargraffu â llaw – nid atgynhyrchiadau Giclée mohonynt. Mae’n dwlu ar arlunio o’r byw. Mae’r rhan fwyaf o’r pethau y mae’n eu harlunio’n fyw ac yn symud. Fydd hi byth yn defnyddio ffotograffau.

<< Yn ôl tudalen