Y Wal
Root & BranchLinda Norris a Wai Kit Lam
02 Gorffennaf - 13 Awst 2022
Cywaith yw Root & Branch rhwng Linda Norris a’r artist o Hong Kong, Wai Kit Lam. Cefnogwyd y gwaith gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cyfarfu Linda a Wai Kit ar-lein yn ystod y cyfnod clo Covid19 cyntaf yn 2020. Penderfynon nhw ddatblygu ychydig o waith gyda’i gilydd gan ddewis y thema ‘coed’ fel symbol o gydnerthedd, rhwydweithio a thwf. Mae’r gwaith hwn yn ffurfio sylfaen Root & Branch.
Ar adeg cythrwfl a rhaniadau mawr ar draws y byd, nod y prosiect hwn yw ymestyn allan a chyfnewid gweithiau celf a wneir â llaw er mwyn ffurfio rhwydwaith creadigol sy’n cysylltu artistiaid yng Nghymru a Hong Kong ag ymarferwyr mewn gwledydd eraill. Er bod gweithiau cyffyrddiadol ac a wneir â llaw yn bwysig i Linda a Wai Kit wrth wneud cysylltiadau ac yn eu rhyngweithio eu hunain â deunyddiau, maent hefyd wedi croesawu gwaith celf digidol.
Ar gyfer Root & Branch bu Linda a Wai Kit yn gwahodd dros 40 o artistiaid o bedwar ban byd sy’n defnyddio coed neu bren mewn rhyw ffordd yn eu gwaith i gyfrannu gwaith celf ar gerdyn post A6.
Mae’r sioe’n teithio’n rhyngwladol ac mae’n dod i Abertawe drwy Hong Kong a Thaiwan.
Delwedd: Olga Turetska, Ukraine Fox in the Forest, Gwydr