Y Wal

  • Header image

Phillippa WalterY Wal

03 Chwefror - 16 Mawrth 2024

Mae Phillippa Walter yn byw ar Benrhyn Gŵyr lle mae’n gweithio fel gwneuthurwr printiau torlun leino.

Astudiodd Phillippa BA (Anrh) mewn Darlunio a Phaentio yng Nghaerdydd a Phrifysgol y Celfyddydau Lisboa. Ar ôl graddio dilynodd ei hangerdd dros fyd natur gan weithio fel hyfforddwr awyr agored, gan fyw'n grwydrol ledled y DU ac Ewrop, yn dringo mynyddoedd neu badlo yn y cefnforoedd. Fodd bynnag, pan gafodd Phillippa anaf a ddaeth â'i gyrfa i ben a chael diagnosis hwyr o Awtistiaeth, a olygodd y bu rhaid iddi ail-werthuso ei ffordd o fyw, dewisodd fywyd araf a heddychlon artist ar lan y môr.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Phillippa wedi archwilio ei chartref newydd ym Mhenrhyn Gŵyr yn artistig, gan weithio ar gyfres o brintiau torlun leino. Fe’u hysbrydolwyd gan fanylion cain torlun pren, gan ymgorffori ysbrydoliaeth o ddarluniau Sofietaidd a’r 1960au, gan wthio leino i’r eithaf a chreu darnau sy’n darlunio’r creaduriaid hardd sy’n byw yma, a’r berthynas sydd gennym â chwaraeon awyr agored.

 

Delwedd: Leap of Faith, Phillippa Walter

<< Yn ôl tudalen