Y Wal

  • Header image

Owain SparnonGwobr Jane Phillips

02 Hydref - 13 Tachwedd 2021

Mae gwaith Owain yn ymateb i bethau mae’n eu gweld yn ddyddiol. Gall y rhain gynnwys ffotograffau, tirluniau, golau adlewyrchol, sain a siapiau a ffurfiau gwrthrychau bob dydd. Mae’n ymddiddori yn y syniad o haenu, datgelu, ymblethiad a newid cyd-destun delweddau, a’r ffin rhwng paentiad a cherflunwaith. Mae ei baentiadau’n datgelu atgofion, meddyliau, cyfrinachau a phrofiadau ei isymwybod trwy liw, gweddillion, gwead a’r anhysbys.

 


 

Cafodd y wobr ei greu yn 2011 er cof am Jane Phillips (1957 – 2011), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Mae’r wobr yn gymynrodd i angerdd Jane am feithrin talent,  yn gweithio gydag unigolion ar bob lefel - gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ag artistiaid ar ddechrau eu taith. Cyfleoedd sydd wedi eu cryfhau trwy gydweithrediad agos gyda thim Oriel Mission, Coleg Celf Abertawe, PCYDDS ag oriel elysium.

Rhan o arddangosfa sydd yn edrych ar lwyddiant a champau deng mlynedd o Wobr Jane Phillips.

Am fwy o wybodaeth am y wobr, cliciwch yma



Delwedd: Amrywiad - Fluctuation, Owain Sparnon

<< Yn ôl tudalen