Y Wal

  • Header image

Nathan JarvisY Wal

11 Mehefin - 10 Gorffennaf 2021

Mae fy ngwaith yn cyfuno elfennau o ddarlunio a chelfyddyd gain drwy gyfryngau argraffu, arlunio a phaentio. Mae’n ymdrin â’r syniad o ddadstrwythuro ac ailadeiladu sy’n deillio o frasluniau yn yr awyr agored. Yn nes ymlaen mae’r rhain yn cael eu trawsffurfio’n ddarluniau, printiau a phaentiadau, gan edrych ar natur, technoleg, pensaernïaeth adeiladau a’r amgylchedd.

Fy nod yw creu ffurfiau sy’n cofnodi realiti bywyd, ei dywyllwch a’i harddwch. Hyn wedi’i ysbrydoli gan deithiau cerdded yng nghymoedd Port Talbot ac o dan ddylanwad cydblethu ffurfiau organig ac anorganig. Ymdriniwyd ymhellach â hyn drwy’i gyfuno â thechnoleg yn ystod fy ngradd.

<< Yn ôl tudalen