Y Wal
Lucy DonaldWal Printiau
18 Medi - 09 Tachwedd 2019
Yn y gyfres yma o brintiau, dw i wedi bod yn arbrofi gyda Mokuhanga yn arddull Aizure-e, technegau Japaneaidd traddodiadol o wneud printiau gan ddefnyddio torluniau pren ac yn benodol, ymdoddiadau lliw Fukibokashi a Futa-iro bokashi.
Mae’r ffordd dw i wedi addasu’r technegau hyn wedi fy ngalluogi i arbrofi â dull rhwyddach o daenu pigment ar floc pren. Yn arbennig, dw i’n hoffi hylifedd y lliw drwy ddefnyddio brwshis sy’n creu gwrthgyferbyniad diddorol â gwead garw’r pren.
Dw i’n cael fy ysbrydoli gan ac yn mwynhau ymchwilio i hanes Cymru. Mae gen i ddiddordeb mewn delweddau a motiffau sydd i mi yn canu cloch mewn cysylltiad â rhan fy nheulu fy hun mewn hanes diwydiannol, sut bu ein cyndeidiau a neiniau’n siapio Cymru heddiw a hefyd ei phobl.
Termau Gwneud Printiau Japaneaidd:
Mokuhanga: dull Japaneaidd o wneud printiau blociau pren
Aizuri-e: printiau sy’n cael eu gwneud gan ddefnyddio glas yn bennaf ac weithiau coch
Dulliau o daenu inc:
Fukibokashi: ymdoddiadau o’r inc a roddir ar y bloc printio
Futa-iro bokashi : mae dau liw yn cael eu gweithio tuag at ei gilydd ar y bloc