Y Wal

  • Header image

Katie TrickY Wal

17 Gorffennaf - 21 Awst 2021

Ar adegau, mae’r gwaith yn dechrau gyda syniad amwys am le neu bwnc, ond mae’r syniad yna’n diflannu’n fuan, ac anaml iawn y byddant yn dod yn ddarluniau triw. Mae’r cyfnod clo wedi newid fy ngwaith a’m ffordd o weithio’n sylweddol, o feddwl am y syniadau sydd gen i o lefydd nad ydw i heb fod iddynt, i feddwl yn sydyn am y dirwedd o’m cwmpas. Hefyd, rydw i wedi lleihau’r gwaith i faint sy’n hawdd ei reoli, gan weithio’n fwy effeithiol.  O ganlyniad, nid ydw i’n fursennaidd mwyach ynghylch y pynciau sy’n mynd a dod, gan adael i bethau sydd i'w canfod yn y broses fod yn bresennol. Maent yn eistedd rhwng y dychymyg ac arsylwi, gan baru’r llefydd a’r delweddau a geir â phatrwm a lliw. Dod o hyd i ffyrdd o fawrygu’r dirwedd o’m cwmpas sydd weithiau’n anghyffrous, tirwedd sy’n agos, ond ar hyn o bryd, yn teimlo’n anghyraeddadwy.

<< Yn ôl tudalen