Y Wal
Kath WibmerY Wal
05 Awst - 23 Medi 2023
Mae Kath yn ddylunydd tecstilau print yn bennaf, ac mae wrth ei bodd yn arbrofi gyda deunyddiau a chyfryngau gwahanol. Mae ei gwaith bob amser yn dechrau o beintiadau a lluniadau â llaw, gan ddefnyddio technegau collage i greu'r cyfansoddiadau terfynol. Mae hi’n defnyddio offer digidol i droi ei lluniadau â llaw yn wahaniadau lliw cymhleth, cyn dychwelyd at dechnegau traddodiadol ac argraffu sgrin sidan ar liain.
Enw’r corff hwn o waith yw ‘Great British Jungle’, sy'n cyfuno mathau o goed, cen, fflora a ffawna o goedwigoedd lleol mewn darnau lliwgar a chwareus i ddathlu bywiogrwydd coetiroedd Prydain.