Y Wal
Emma BenzY Wal
26 Mawrth - 07 Mai 2022
Artist sy’n byw ar Benrhyn Gŵyr yw Emma sy’n arbenigo mewn dyfrlliwiau llachar a beiddgar sy’n ymdrin â thestunau naturiol a botanegol. Mae ei chefndir mewn cadwraeth baentiadau ac mae’n dal i ddefnyddio’r technegau hyn yn ei gwaith, yn fwyaf nodedig wrth ddefnyddio haen aur 24c sy’n cael ei gosod yn gyfan gwbl â llaw.
Yn ei phaentiadau mae Emma’n edrych ar ein perthynas â natur yn ogystal â’n gilydd y mae’r ddwy wedi dod yn fwyfwy perthnasol yn ddiweddar. Mae Emma’n defnyddio dyfrlliwiau mewn ffordd anhraddodiadol, gan baentio mewn dyfrlliwiau o Japan yn unig ac yn taenu’r paent mewn un haenen barhaus er mwyn creu’r effaith fwyaf trawiadol o ran y palet.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Emma gomisiynau i Fortnum & Mason ac mae ei gwaith wedi’i gynnwys yn y Times.