Y Wal
Diptych...Prosiect cydweithredol
25 Mawrth - 06 Mai 2023
Ym mis Mawrth 2022 dyfarnodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyllid ar gyfer DIPTYCH, prosiect gwneud printiau ar y cyd rhwng Sarah Hopkins (Cymru) a Muhammad Atif Khan (Pacistan).
Drwy gydol y flwyddyn honno, roedd y ddau artist wedi creu a chyfnewid eu gwaith drwy gludwr i’r naill a’r llall ei gwblhau. Y canlyniad yw casgliad o 16 print cyfyngedig.
Roedd gweithio ar ben delweddau ei gilydd yn brofiad brawychus, ond roedden nhw’n teimlo bod rhyddid yn y broses wrth iddyn nhw ymateb yn weledol i’w gilydd. Mae pob print gorffenedig yn adrodd ei stori ei hun ac mae’n gyfuniad unigryw o eirfa weledol gyda chyfeiriadau o’u diwylliant a’u treftadaeth eu hunain.
Cefndir:
Dan faner Gŵyl Diwylliannau Mwslimaidd y DU 2006, bu Sarah Hopkins yn rheoli Prosiect Argraffu Gŵyl y Diwylliannau Mwslimaidd yng Ngweithdy Argraffu Abertawe. Fel rhan o’r dathliad blwyddyn o hyd, roedd hi’n gyfrifol am gynnal yr artistiaid Pacistanaidd, Muhammad Atif Khan ac Aleem Dad Khan am gyfnod preswyl o dri mis yn Abertawe. Arweiniodd hyn at raglen helaeth o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yng Nghymru, a rhaglen gyfatebol ym Mhacistan. Yn 2007, bu’n curadu arddangosfa Gwneuthurwyr Printiau Cyfoes Cymru a deithiodd i Islamabad, Lahore a Karachi. Drwy’r cyfnewid diwylliannol a chreadigol hwn, datblygodd gysylltiadau â Choleg Cenedlaethol y Celfyddydau, Lahore, a datblygodd bartneriaeth gref gyda’r gwneuthurwr printiau Pacistanaidd, sef Muhammad Atif Khan.
Delwedd: Tea Dance gan Sarah Hopkins a Muhammad Atif Khan