Y Wal

  • Header image

Dale SinoiaY Wal

20 Tachwedd - 15 Ionawr 2022

Mae Dale Sinoia yn artist o Abertawe syss yn gweithio gyda chelf cysyniad 3D, darluniadau a chelf gor-realistig. Mae gwaith Dale, sy'n hollol hunanddysgedig, yn deillio o’i ymgais i geisio deall ymddygiad dynol. Nod ei gorff o waith yw creu cysylltiad rhwng ei destunau a'r gwyliwr. Mae'n diffinio’i broses fel "ymarfer ar gyfer amser ac amynedd", ac mae'n gweithio fel artist traddodiadol yn ogystal ag fel artist digidol gan ddefnyddio meddalwedd fel Photoshop, CAD, ZBrush, Substance Painter, Blender a Procreate. Gan ei fod yn ystyried geiriau’n ffordd gyfyngol o fynegiant mewn byd gweledol lliwgar, mae ei gelf yn gweithredu fel cyfrwng i gyfleu ei lais i drafod materion pwysig mewn cymdeithas. Mae'n archwilio’i hunaniaeth a'i falchder fel person du mewn byd sy'n dod yn fwy byd-eang, yn ogystal â syniadau sy'n ymwneud â realaeth Affro drwy eiconograffiaeth o brofiadau personol a chyfeiriadau diwylliannol.

<< Yn ôl tudalen