Y Wal
Catherine HilesY Wal
04 Chwefror - 18 Mawrth 2023
Darnau symbolaidd haenog, coeth wedi’u gwehyddu, yn defnyddio elfennau o geometreg gysegredig, yn aml ar ffurf darnau mandala egnïol a phwerus ar bren, gyda miloedd o binnau, gemau gwerthfawr a gwydr y môr Cymreig; neu gerfluniau pren wedi’u hadnewyddu a haniaethau lliwgar gydag addurniadau wedi'u gwehyddu. Mae eu dyfnder, eu harddwch a’u cymesuredd, sy’n denu’r llygad, yn ennyn cytgord ac yn deffro'r enaid.
Mae gwaith Catherine yn deillio o flynyddoedd o deithio, cyfle i dreulio cryn dipyn o amser gyda chrefftwyr lleol; gan danio cariad at decstilau hyfryd wedi’u gwehyddu ac arddulliau cyfoes beiddgar, yn ogystal ag arferion ysbrydol sy’n ffefrynnau gan bobl Asia a De America.
Wedi’i lleoli yn Ne Cymru a’i chydnabod yn rhyngwladol.
Delwedd: Amethyst Geode, 2022 (darn wedi ei arddangos ar gefndir porffor)
Mandala Cyfoes Edau wedi’i Wehyddu ag Edau Sidan a Phinnau Pres ar Bren ac Amethystau Crai a Gloyw