Y Wal
CartrefArtistiaid lleol sydd yn ceisio am loches yn Abertawe
23 Mawrth - 18 Mai 2024
Fel Dinas Noddfa, mae Abertawe yn gartref i artistiaid o sawl gwlad sy’n ceisio lloches. Ond mae ‘Cartref’ yn golygu rhywbeth gwahanol i bob unigolyn sydd wedi’i ddadleoli.
Yn aml, mae Cartref yn ddechrau taith hir tuag at heddwch a diogelwch. Efallai ei fod wedi dechrau ymysg trais ac erledigaeth, neu boen a thristwch, neu efallai ei fod yn atgof melys, ond mae Abertawe bellach wedi dod yn gartref newydd i unigolion sy’n ceisio lloches.
Mae unigolion sy’n ceisio lloches, ffoaduriaid a mudwyr yn rhannu cipolwg bywiog ar eu gwledydd a’u traddodiadau drwy gelf. Maen nhw’n adrodd stori, maen nhw’n dangos taith, maen nhw’n mynegi hunaniaeth. Mae eu gwaith celf yn ffenestri i’w cymunedau a’u natur unigryw. Gan fynd y tu hwnt i rwystrau iaith a diwylliant, rydyn ni’n camu i mewn i’w byd, rydyn ni’n teithio ar hyd eu ffyrdd, ac rydyn ni’n teimlo eu hemosiynau a’u breuddwydion. Rydyn ni’n cysylltu â’n gilydd drwy gyfrwng celf.
Rydyn ni’n cael ein hatgoffa nad lle pell ar fap yn unig yw Cartref i ffoaduriaid. Mae’n ddynoliaeth a rannwn. Bydd sylwi arnyn nhw’n cyfoethogi ein teithiau ein hunain.
Mae’r darnau a gyflwynir wedi cael eu creu gan ymfudwyr o El Salvador, Guinea, Georgia, Rwsia, Ynysoedd Philippines, Bangladesh ac Iran.