Sioe Grefft

  • Header image

Ystyron a Negeseuon | Briff BywDylunio Crefft, Coleg Celf Abertawe PCYDDS

25 Mawrth - 06 Mai 2023

Gan ddefnyddio arddangosfa Ystyron a Negeseuon y Gymdeithas Gemwaith Cyfoes a gynhaliwyd yn Oriel Mission fel ysbrydoliaeth, rhoddwyd briff byw i fyfyrwyr Crefftau Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, i greu eu gemwaith datganiad eu hunain. Roedd y darnau hyn yn cyfleu ystyron a negeseuon y myfyrwyr eu hunain.

Roedd safon y gwaith a gynhyrchwyd gan bob ymgeisydd yn rhagorol ac yn werth ei weld. Cafodd y briff byw hwn ei osod mewn cydweithrediad rhwng Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Joanne Haywood o’r Gymdeithas Gemwaith Cyfoes, y Cyngor Crefftau, a Rhian Wyn Stone o Oriel Mission.

Enillydd: Zachary Dunlap

Ail wobr: Molly Ashton



Two hand reach out from opposite ends of the image towards each other. The hands are against a deep black background and are holding a statement porcelain ring between the index and third finger. Rings by Zachary Dunlap, image by Katie Davies.

Am Zachary Dunlap

Atgofion ar Gof a Chadw: Cylchoedd capsiynau porslen

Bob blwyddyn yn y DU yn unig, mae 13 miliwn o yriannau caled yn cael eu datgomisiynu a’u dinistrio. O ystyried natur eu defnydd, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n cael eu gorfodi i ddinistrio’r rhain yn hytrach na’u hailgomisiynu er mwyn diogelu data, sy’n costio cannoedd o bunnau y flwyddyn i gwmnïau.

Mae’r plât (disg sgleiniog) wedi’i wneud o gyfuniad o silica, cobalt a magnesiwm ymysg amryw o fetelau daear prin eraill. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, darganfyddais bwynt toddi/oeri sefydlog a fyddai’n arwain at y defnydd mwyaf deniadol o’r ddisg hon.

A trio of images of a model wearing a statement necklace made of copper pipe and shells. Necklace by Molly Ashton, images by Laurentina MiksysAm Molly Ashton

Mae’r casgliad hwn wedi’i ysbrydoli gan gregyn bylchog, a roddwyd i mi gan bysgotwr lleol a fyddai wedi’u taflu fel arall. Roeddwn i’n meddwl y byddai’n drueni pe bai deunydd mor brydferth yn cael ei wastraffu am nad oedd ei angen. Roeddwn i’n cael fy nenu at eu gwead a’u siapiau yn eu ffurfiau naturiol a thrwy eu cyfuno â deunyddiau eraill. Mae’r gwaith yn edrych ar briodweddau deunydd a sut gellir defnyddio’r priodweddau hynny i greu amrywiaeth o effeithiau gweledol. Er enghraifft, pan oedd y cregyn yn cael eu tanio ar dymheredd isel, roedden nhw’n troi’n fetelaidd. Ond pan oedden nhw’n cael eu tanio ar dymheredd uwch gyda’r gwydr, roedd y cregyn yn chwalu’n ddarnau yn araf ar ôl oeri a dod i gysylltiad â’r aer. Mae gan y gwydr briodweddau mwy parhaol, ond yr un mor fregus. 

Ym myd natur, pan nad yw’r gragen yn cael ei defnyddio mwyach, mae’n dadelfennu’n naturiol ac yn creu tywod – deunydd crai sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwydr. Rydw i wrth fy modd â’r cysylltiad rhwng y deunyddiau hyn a sut mae natur wrth galon y gwaith.

 

Delweddau: Cylchoedd capsiynau porslen gan Zachary Dunlap, delwedd gan Katie Davies. Mwclis cregyn gan Molly Ashton, delwedd gan Laurentina Miksys.

<< Yn ôl tudalen