Sioe Grefft
Y Rhodd | Briff BywColeg Celf Abertawe PCYDDS
14 Gorffennaf - 07 Awst 2021
Mewn ymateb i friff byw, roedd myfyrwyr Crefftau Dylunio a Dylunio Patrwm Arwyneb Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi creu casgliadau newydd ar sail ‘y rhodd’. Roedd y briff byw hwn yn gofyn iddyn nhw feddwl beth roedd hyn yn ei olygu iddyn nhw a sut gallai cwsmeriaid Oriel Mission brynu eu cynnyrch fel rhodd.
Yn dilyn trafodaethau am gynnyrch ac adborth dros y flwyddyn ddiwethaf, gall Oriel Mission a Choleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyhoeddi mai’r myfyrwyr sydd wedi cael eu dewis yw:
Lexi Gould
Kate Scale
Diane Wilson
Alyson Williams
Delwedd: Kate Scale