Sioe Grefft

  • Header image

Sioe Arddangos GemwaithCuradwyd gan Anna Lewis

09 Hydref - 31 Rhagfyr 2018

Darlithiwr yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, dylunwr a gwneuthurwr ac aelod cynt o fwrdd Oriel Mission yw Anna Lewis. Gofynnwyd Anna gan Oriel Mission i guradu arddangosfa gemwaith o fewn ein Lle Crefft - gan ddangos gwaith dau gemydd cyfoes gwahanol iawn.

Rydym ni yn Oriel Mission mewn cariad gyda’r gwaith yma ac rydym ni’n teimlo y fyddech chi hefyd - mae pob eitem ar werth tan ddiwedd Rhagfyr felly peidiwch ei golli!


Mizuki Takahashi 

Artist gemwaith cyfoes arobryn yw Mizuki sy’n byw ac yn gweithio yn Swydd Gaerwrangon ar ôl graddio o Goleg Celfyddydau Henffordd.

Mae ymarfer gwneud marciau a chwarae â phapur yn rhoi i Mizuki syniadau dylunio syml ond cain wrth wneud ei gemwaith. Yn fwyaf diweddar, enamlo sy’n mynd â bryd Mizuki yn ei gwaith; mae’n creu patrymau gwneud marciau unigryw ar wynebau copr enamlog cain gan ddefnyddio techneg sgraffito(crafu). Mae pob llinell a dynnir ganddi yn unigryw ac yn cael ei newid gan yr amser tanio yn yr odyn gan arwain at ganlyniadau gwahanol ym mhob prosiect. Mae ffasninau arian du ocsidiedig i bob elfen enamlog yn cael eu cynllunio a’u gwneud â llaw’n ofalus gan Mizuki, y llinellau duon wedi’u bwrw fel cysgodion sy’n gyfochrog â chrafiadau’r marciau enamlog.

Mae pob darn o emwaith a grëir gan Mizuki yn hollol unigryw. Unwaith i ddarn gael ei wneud neu yn ystod y broses o gael ei wneud mae’n ei hysbrydoli i gael a thyfu syniadau newydd ar gyfer y prosiect nesaf.

 

Holly Stant

Dylunydd a gwneuthurwraig gemwaith cyfoes cyfryngau cymysg ydw i sy’n dod o Colchester yn Essex. Mae fy ngwaith presennol yn deillio o’m hymchwil i’m teithiau i wlad arall, Y Swistir. Mae’r wlad yma yn golygu llawer i mi; dw i wedi treulio llawer o wyliau yno ac mae gen i atgofion melys o bob taith. Oni bai bod fy nain a thaid wedi mynd â fi yno pan o’n i’n 10 mlwydd oed, fyddwn i byth wedi gwybod bod gwlad mor hardd yn bodoli. Nid yn unig bod y lle’n apelio ata i, ond mae’n teimlo fel gartref, yn rhan o bwy ydw i.

Mae fy narnau gemwaith yn gasgliadau o’m delweddaeth fy hun, symbolau mapiau’r Swistir a chynlluniau o wahanol fapiau. Dw i’n cael bod arlunio a gludweithio’n allweddol i’m gwaith gan eu bod yn gadael i mi weld pa siapiau, delweddau, lliwiau a symbolau sy’n gweithio’n dda gyda'i gilydd. Ar ôl gludweithio gwahanol gyfuniadau, bydda i wedyn yn dechrau gwneud y deunyddiau, proses sy’n fy ngadael i ddewis lliwiau a deunyddiau sy’n cyd-fynd â’i gilydd.

Mae profi deunyddiau’n bwysig. Mae angen i mi weld pa ffotograffau sy’n gweithio’n dda fel trosluniau ar ba bren a pha liwiau y galla i eu cyflwyno i naill ai gwrthgyferbynnu â neu weddu i’r deunyddiau.

Dw i’n defnyddio amryw o ddeunyddiau fel pren, metel ac acrylig, gan fod y cyfuniad cyferbyniol o weadau, lliwiau ac arwynebau’n ddeniadol i mi.

Mae fy nhechnegau’n amrywio rhwng torri â laser, ysgythru, rhwyllo a mewnosod. Mae’r holl ddeunyddiau a thechnegau dw i wedi’u defnyddio yn dod at ei gilydd i ddweud stori.

<< Yn ôl tudalen