Sioe Grefft
Bronwen GwillimSioe Grefft
25 Ionawr - 21 Mawrth 2020
Mae Bronwen yn gwneud gemwaith trawiadol y gellir ei wisgo o blastigau gwastraff diwydiannol y cafwyd hyd iddynt ar draethau Cymru ac sydd wedi’u haddasu at ddiben gwahanol. Fe’i hysbrydolir gan siapiau a gweadau a grëwyd dros amser gan rymoedd y tywydd a’r môr. Mae’n ei gweld ei hun fel gof plastigau sy’n gweithio gyda rhywbeth gwerthfawr gan geisio ei drwytho â chymeriad drwy ei gyfuno ag arian sydd wedi’i ailgylchu a gweithio ar ei wyneb nes iddo deimlo’n naturiol yn y llaw fel carreg fechan hoff.