Sioe Grefft
Beca BeebySioe Grefft
11 Awst - 18 Medi 2021
Gwneuthurydd yw Beca Beeby sy’n byw yng Ngwent â’i thirwedd gyforiog o chwedlau lle mae’n cael hyd i ysbrydoliaeth yn holl fanylion cain y planhigion, pryfed a chen sy’n byw yn y dirwedd honno a’i gardd ei hun. Gan ddefnyddio dulliau macro a microsgopaidd i astudio’r ffurfiau organig y mae’n eu canfod, mae Beca’n cyfuno’i chariad at wyddoniaeth ac ethnofotaneg â’i sgiliau creu â metelau a chlai i gynhyrchu darnau unigryw o gerfluniaeth y gellir eu gwisgo ac (fel arfer) eu defnyddio. Ei gobaith yw y bydd y rhain yn ennyn yr un rhyfeddod yn y gynulleidfa at yr harddwch anhygoel a’r holl gysylltiadau a geir ym myd natur ag a brofir ganddi hithau.