Cyfnodau Preswyl

  • Header image

Cyfnod Preswyl StiwdioGwobr Jane Phillips

01 Mehefin - 31 Gorffennaf 2019

Mae’n bleser gan Oriel Mission gyhoeddi Cyfnodau Preswyl ar gyfer Myfyrwyr Celf a Dylunio Sylfaen Coleg Celf Abertwe, PCYDDS. Rydym yn ymfalchïo gweithio gyda’n partneriaid yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS ac yn edrych ymlaen at bwysleisio ansawdd y gwaith a gynhyrchir gan fyfyrwyr ym mhob disgyblaeth. 

Wedi eu selio yn Stiwdios Stryd y Berllan Elysium, Abertawe. Cyfle arbennig ennill profiad gwerthfawr o reoli stiwdio, cyn symud ymlaen i’r Brifysgol neu faes astudio neu waith arall. Mae’r profiad unigryw yma yn darparu rhyddid i’r myfyriwr Sylfaen gynhyrchu, datblygu, archwilio, ymchwilio ac arddangos eu hymarfer gyda rhyddid a chefnogaeth.

 

Bydd derbyniwr y Cyfnod Preswyl yn cael ei ddethol gan Rhian Wyn Stone, Prif Gynorthwyydd Rhaglen Oriel Mission ac aelod o bwyllgor Gwobr Jane Phillips. 

 

 

<< Yn ôl tudalen