I Blant
Wynebau Anifeiliaid o GlaiGweithdai i Blant
19 Ebrill - 19 Ebrill 2019
11yb - 1yp | £6 | Addas i blant 7+ oed
P’un a ydych am wneud wyneb anifail neu fwystfil, dysgl bysgodyn o glai neu bortread o anifail anwes, byddwn yn dangos i chi sut i wneud sylfaen i’ch cynllun a sut i roi at ei gilydd wyneb clai gwych o’ch dewis. Ymunwch â ni am ddiwrnod hwyliog o greu gyda chlai!
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi, ar 01792 652016 neu e-bostio email education@missiongallery.co.uk
Darperir deunyddiau, nifer cyfyngedig o leoedd, rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.