I Blant
Torchau Papur Nadoligaidd
17 Rhagfyr - 17 Rhagfyr 2022
Am ddim
7+ oed
11yb - 12.30yp
Eventbrite: Torchau Papur Nadoligaidd
Ymunwch â ni yn Oriel Mission ar gyfer gweithdy creu torchau papur Nadoligaidd. Byddwn yn arbrofi â deunyddiau ac yn chwarae gyda chelf papur 3D i greu dyluniadau unigryw. Byddwch yn mynd â’ch addurn personol adref i’w hongian neu i’w roi’n anrheg Nadolig.
Mae deunyddiau wedi’u cynnwys ond dewch ag unrhyw hen addurniadau Nadolig neu eitemau a deunyddiau addurniadol eraill yr hoffech eu hailddefnyddio i addurno eich torch.
Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.
Bydd angen i chi fod ar gael yn ystod y sesiwn, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi i gasglu eich plentyn
Rydyn ni’n gofyn i chi neu eich plentyn aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl. Rhowch wybod i ni na fydd eich plentyn yn dod i’r sesiwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Mae deunyddiau yn brin a rhaid i chi archebu’ch lle. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa. Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth. Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.