I Blant

  • Header image

Tiwtora Celf @ Oriel Mission

03 Tachwedd - 15 Rhagfyr 2021

**GWERTHU ALLAN**

Tiwtora Celf @ Oriel Mission

Byddwn yn dechrau tiwtora celf yma yn Oriel Mission!

 

Bydd y tiwtora yma’n ymdrin yn benodol â phaentio ac arlunio. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu technegau yn y disgyblaethau hyn yn ogystal â derbyn cefnogaeth gan artistiaid gweithredol. Am y tro, bydd hyn yn agored i fyfyrwyr oed ysgol gyfun yn unig (11-16). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn ystyried cynnig dewis i bobl iau yn y dyfodol.

 

Bydd y cwrs ar ôl yr ysgol ar nos Fercher dros 4 sesiwn, rhwng 6 ac 8yh 

 

Nos Fercher, 3 Tachwedd

Nos Fercher, 17 Tachwedd

Nos Fercher, 1 Rhagfyr

Nos Fercher, 15 Rhagfyr

 

Codir ffi o £40 am y cwrs. Fodd bynnag, mae gynnon ni fwrsari bach ar gael, felly nodwch ar y ffurflen os yw hwn yn rhywbeth yr hoffech chi wneud cais amdano.

 

Cyfyngir nifer y lleoedd i 10 o fyfyrwyr yn unig ar sail y cyntaf i’r felin. Paratoir rhestr aros rhag ofn y daw lle ar gael neu ar gyfer yr ail gyfres o diwtora rydyn ni’n gobeithio ei threfnu yn y flwyddyn newydd.

 

Application: Art Tuition 

<< Yn ôl tudalen