I Blant

  • Header image

Tai Sinsir wedi’u gwneud o GardfwrddMission Gallery

21 Rhagfyr - 21 Rhagfyr 2024

Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr 2024

11am-12:30pm | 7+ | £7

 Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd

Wrth i dymor yr ŵyl agosáu, ymunwch â ni i greu tai bara sinsir hyfryd wedi’u gwneud o gardfwrdd. Addurnwch y tai mewn ffordd Nadoligaidd ac unigryw! Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei roi yn eich ffenestr i bobl eraill ei mwynhau neu ei gosod fel canolbwynt eich ystafell.

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.

 Eventbrite:  Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen