I Blant
Sesiwn Dawel-Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd
16 Rhagfyr - 16 Rhagfyr 2023
Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr
2pm-3pm | 7 oed a hŷn | Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod
Sesiwn Dawel-Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd
Rydym yn cynnig Sesiwn Dawel o’n gweithdai plant.
Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.
Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd
Wrth i dymor yr ŵyl agosáu, ymunwch â ni i greu tai bara sinsir hyfryd wedi’u gwneud o gardfwrdd. Addurnwch y tai mewn ffordd Nadoligaidd ac unigryw! Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei roi yn eich ffenestr i bobl eraill ei mwynhau neu ei gosod fel canolbwynt eich ystafell.
Caiff deunyddiau eu darparu.
Fel gweithdy cynaliadwy, mae croeso i gyfranogwyr ddod ag unrhyw gardfwrdd sbâr i’w ddefnyddio a’i addurno.
Eventbrite:Sesiwn Dawel-Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd
Bydd hwn yn sesiwn hamddenol a hwyliog yng ngofod addysg yr oriel lle bydd plant yn cael eu hannog i fynegi eu creadigrwydd ac arbrofi gyda deunyddiau.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.