I Blant

  • Header image

Sesiwn Dawel- Llusernau’r Hydref

04 Tachwedd - 04 Tachwedd 2023

2pm-3pm | 7+ | Croesewir rhoddion ar y diwrnod


Rydym yn cynnig Sesiwn Dawel o’n gweithdai plant.

Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.

 

Gan fod yr hydref wedi cyrraedd, ymunwch â ni i greu llusernau papur tymhorol i oleuo eich nosweithiau – p’un ai i’w clymu o amgylch eich ystafell wely neu i’w rhoi yn y ffenestr i bobl eraill ei mwynhau.

Gall y llusernau fod yn bersonol ac yn unigryw i chi!

Bydd hwn yn sesiwn hamddenol a hwyliog yng ngofod addysg yr oriel lle bydd plant yn cael eu hannog i fynegi eu creadigrwydd ac arbrofi gyda deunyddiau.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

Eventbrite: Sesiwn Dawel- Llusernau’r Hydref

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen