I Blant

  • Header image

Sesiwn Dawel- Celf tywod Diyas a Rangoli

11 Tachwedd - 11 Tachwedd 2023

2pm-3pm | 7+ | Croesewir rhoddion ar y diwrnod

Sesiwn Dawel- Celf tywod Diyas a Rangoli

Rydym yn cynnig Sesiwn Dawel o’n gweithdai plant.

Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.

Croesewir rhoddion ar y diwrnod

Celf tywod Diyas a Rangoli

 

Ar gyfer Diwali, Gŵyl y Goleuni, byddwn yn creu Diyas clai unigol a chelf tywod Rangoli hardd.

 

Math o gelf yw Rangoli sy’n cael ei greu’n aml gyda thywod lliw. Mae’r patrymau hyn yn gallu bod yn siapiau geometrig syml neu’n ddyluniadau blodeuol cymhleth. Bydd eich celf Rangoli yn cael eu troi’n ddarnau pren bach i chi fynd adref gyda chi.

Bydd ein lampau Diya wedi’u gwneud o glai a gallant fod mor lliwgar neu fanwl ag y dymunwch!

Eventbrite: Sesiwn Dawel- Celf tywod Diyas a Rangoli

 

 

Bydd hwn yn sesiwn hamddenol a hwyliog yng ngofod addysg yr oriel lle bydd plant yn cael eu hannog i fynegi eu creadigrwydd ac arbrofi gyda deunyddiau.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen